Etholiad: Dylanwad glo'n parhau'n gryf?

  • Cyhoeddwyd
Map Vaughan RoderickFfynhonnell y llun, Vaughan Roderick

Yn dilyn canlyniadau'r etholiad cyffredinol, mae map gafodd ei drydar, dolen allanol gan Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC, wedi denu llawer o ymateb.

Ar raglen Sunday Supplement, Radio Wales, buodd yn trafod rhagor ar y map, a'i arwyddocad.

Dywedodd: "Mi wnes i drydar llun map o seddi'r Blaid Lafur yng Nghymru a Lloegr a llun map o'r hen feysydd glo, a gyda'r eithriad o Lundain, maen nhw'n cyd-fynd bron yn union.

"Mae hynny'n awgrymu i mi bod y Blaid Lafur wedi methu â chysylltu gyda phobl uchelgeisiol, y math o bobl wnaeth bleidleisio i Blair.

"Roedd ganddo gysylltiad â'r bobl yma, nad oes gan y Blaid Lafur bellach."

'Gwahaniaethau enfawr'

Wrth ymateb i sylwadau hynny, dywedodd Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, bod rhaid cymryd i ystyriaeth bod Prydain bellach yn rhanedig.

Dywedodd: "Roedd chwech neu saith o etholiadau gwahanol yn digwydd ar yr un pryd.

"Roedd yr etholiad yn Yr Alban yn wahanol iawn i unrhyw beth yn unrhyw ran arall o'r DU.

"Mae'n rhaid i ni dderbyn bod gwahaniaethau enfawr o fewn y DU."