Cyngor yn diddymu cyllid CCTV

  • Cyhoeddwyd
Camera cylch cyfyngFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu tynnu'r cyllid o £104,000 i rwydwaith CCTV y sir.

Mae'r penderfyniad yn golygu na fydd yr 87 o gamerâu bellach yn cael eu monitro gan staff.

Bydd y camerâu yn Rhydaman, Porth Tywyn, Caerfyrddin a Llanelli yn cael eu cadw, a bydd y lluniau ohonynt yn cael eu recordio, ond ni fydd staff y cyngor yn gwylio'r lluniau yn fyw a bydd pedwar aelod o staff yn cael eu diswyddo.

Fe ddaw'r penderfyniad yn dilyn un arall gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Christopher Salmon, i dynnu cyllid o £44,000 yn ôl yn Ionawr eleni.

Daeth adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Mr Salmon i'r casgliad nad oedd achos i gefnogi monitro CCTV cyhoeddus, ac mai ychydig iawn o dystiolaeth oedd ar gael bod y camerâu yn atal trosedd treisiol neu oedd yn ymwneud ag alcohol.

Dywedodd y cyngor bod gwasanaeth pryd ar glud yn fwy o flaenoriaeth na monitro camerâu cylch cyfyng, ac y byddai'r arian sy'n cael ei arbed yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu dyfodol y gwasanaeth hwnnw.

Roedd y cyngor wedi cynnal ymgynghoriad er mwyn i'r cyhoedd gael dweud eu dweud ynglŷn â dyfodol y camerâu.

Mae Cyngor Caerfyrddin wedi dweud na fydden nhw'n cael gwared ar y camerâu ac na fydden nhw'n cael eu diffodd, ond y byddai'n rhaid i'r heddlu fod yn gyfrifol am unrhyw waith monitro yn y dyfodol.