Ysbryd yr Eisteddfod?
- Cyhoeddwyd
Oes na'r fath beth ac ysbrydion? Os oes ganddoch chi amheuon, beth am ymweld â phlasdy Llancaiach Fawr ar gyrion maes Eisteddfod yr Urdd, Caerffili?
Mae'r maenordy, ym mhentref Nelson, wedi ei enwi gan arbenigwyr ymhlith y 10 adeilad ym Mhrydain sydd â'r nifer fwyaf o ysbrydion ynddyn nhw.
Cafodd y tŷ gwreiddiol ei adeiladu o gwmpas 1530 ac yn ystod ei hanes hir, lliwgar a gwaedlyd, mae wedi bod yn dyst i nifer o ddigwyddiadau dadleuol a thrasig.
Wrth gwrs, gyda chynifer o farwolaethau'n digwydd o fewn ei furiau, mae'n anorfod fod ambell i ddioddefwr wedi dewis aros ar yr hen fyd 'ma yn hytrach na symud ymlaen i'r byd arall.
Gweld, clywed ac arogli
Mae adroddiadau am ddigwyddiadau arallfydol yn cael eu profi yn bron pob ystafell yn y tŷ. Mae pethau'n cael eu gweld, eu clywed a'u profi ar hyd coridorau ac ar risiau, ac aroglau fioled, lafant, a hyd yn oed cig eidion o gwmpas yn ddi-esboniad.
Dal ysbrydion ar gamera
Ar ddechrau'r ganrif, gosododd y BBC gamerâu yn nifer o ystafelloedd yn y tŷ er mwyn ceisio dal delweddau rhai o'r ysbrydion.
Mae enghreifftiau o rai o'r lluniau i'w gweld yma. Ydyn nhw yn fodau o gyfnod arall mewn hanes, neu'n driciau sydd wedi codi o siapiau cysgodion yng ngolau'r lleuad?
Penderfynwch chi... os ydych chi'n ddigon dewr!
'Presenoldeb' Mattie
Y ffigwr sy'n cael ei gweld fwyaf aml yw 'Mattie', oedd - mae'n debyg - yn forwyn yn y tŷ yn ystod y 19eg ganrif. Mae adroddiadau am bobl yn clywed ei sgertiau'n gwneud sŵn yn yr ystafell wely lle wnaeth farw o dan amgylchiadau trasig.
"Alla'i ddod gyda chi?"
Un arall sy'n cael ei weld a'i deimlo'n aml yw ysbryd bachgen bach. Yn ôl y stori drist am ei farwolaeth, syrthiodd o un o ffenestri ucha'r tŷ, ac mae weithiau yn gafael yn llaw ymwelwyr, yn erfyn arnyn nhw i'w arwain adref gyda nhw!
Penderfyniad anodd
Un ffigwr arall yw dyn yn eistedd yn feddylgar. Yn ôl y son, Edward Pritchard, perchennog Llancaiach Fawr yn ystod Rhyfel Cartref 1642 sy'n pendroni a oedd mynd i barhau i gefnogi'r Brenin Siarl neu beidio? (Yn y diwedd, fe wnaeth benderfynu peidio.)
Peidiwch edrych yn ôl
Felly, os fyddwch chi'n mynychu rhagbrawf cynnar ar y maes, a 'dy chi'n gweld ffigwr yn syllu arnoch o ffenestr y tŷ drwy'r niwl tenau... dechreuwch redeg!