Llafur i ddewis arweinydd ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd
Fe ymddiswyddodd Ed Miliband yr wythnos ddiwetha' yn dilyn canlyniadau siomedig Llafur yn yr etholiadFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddiswyddodd Ed Miliband yr wythnos ddiwetha' yn dilyn canlyniadau siomedig Llafur yn yr etholiad

Mae Pwyllgor Gweithredol y Blaid Lafur- yr NEC - wedi dweud y bydd enw olynydd i Ed Miliband yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi, ychydig wythnosau cyn cynhadledd flynyddol y blaid.

Bydd y broses o dderbyn enwebiadau ffurfiol yn dechrau ar 15 Mai, a bydd y pleidleisio yn dechrau ar 10 Medi.

Eisoes mae Chucka Umunna, llefarydd Llafur ar fusnes, a Liz Kendall, llefarydd gofal y blaid, wedi dweud y byddan nhw'n ymgeisio.

Fe wnaeth Mr Miliband ymddiswyddo wedi i'w blaid golli'r etholiad, gan sicrhau ond 232 o seddi drwy'r DU.

'Brand Cymreig'

Yn y cyfamser, mae cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi rhybuddio'r Blaid Lafur Gymreig bod angen dysgu gwersi yn dilyn perfformiad gwael y blaid yn Yr Alban yn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd y gallai'r blaid "wynebu'r un dynged â'r Blaid Lafur yn Yr Alban" os nad oedd "brand Cymreig" yn cael ei sefydlu.

Collodd Llafur 40 o seddi i'r SNP yn yr Alban ddydd Iau diwetha', gan olygu mai ond un AS Llafur sydd yno.

Awgrymodd Mr Morgan hefyd y gallai proffil Leanne Wood yn y dadleuon teledu roi hwb i Blaid Cymru yn etholiadau'r cynulliad yn 2016.

Disgrifiodd Mr Morgan cyn arweinydd Llafur, Ed Miliband, fel unigolyn "hynod ddisglair", a oedd yn "ddyn neis iawn", ond nad oedd ganddo'r "ffactor X" ac nad oedd wedi llwyddo i ysbrydoli rhai cefnogwyr Llafur.

Ychwanegodd fod y blaid wedi disgyn i'r trap o wneud yr etholiad yn ormod o gystadleuaeth uniongyrchol rhwng Miliband a Cameron.

Dywedodd Mr Morgan nad oedd o'n ffafrio unrhyw un yn benodol i ddod yn arweinydd newydd ar Lafur.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Morgan yn credu bod angen i Blaid Lafur yng Nghymru fabwysiadu "brand Cymreig"