Cameron: 'Dim rhyfel yn erbyn Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae David Cameron wedi gwadu ei fod "yn cynnal rhyfel yn erbyn Cymru".
Roedd yng Ngŵyr ddydd Iau, un o'r seddau gafodd ei chipio oddi ar Lafur yn yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd ei fod wedi anghytuno â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones a'i gyhuddo o wneud toriadau yn y Gwasanaeth Iechyd.
Ond mynnodd y byddai mesur ar gyfer mwy o bwerau i Gymru yn Araith y Frenhines ac addawodd "ariannu teg" ar gyfer Cymru.
Refferendwm
Roedd "disgwyliad," meddai, y byddai refferendwm yng Nghymru ar bwerau treth incwm.
Ynghynt dywedodd fod yr etholiad cyffredinol wedi rhoi momentwm i'r Ceidwadwyr Cymreig wrth iddyn nhw baratoi at etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Roedd buddugoliaeth Byron Davies yn yr etholaeth, meddai, yn gamp enfawr oedd yn dangos adfywiad y Ceidwadwyr yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf.
Fe gafodd y blaid ei chanlyniad gorau ers 30 o flynyddoedd yng Nghymru, gan ennill 11 allan o'r 40 sedd.
'Gyda pharch'
Mae Mr Cameron wedi addo parhau i drin llywodraethau datganoledig yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon "gyda pharch".
Dywedodd Mr Crabb, sy'n cadw ei swydd yng nghabinet Mr Cameron, y byddai'n defnyddio ei gyfarfod gyda Mr Jones i sefydlu sut y bydden nhw'n gweithio gyda'i gilydd i ddenu buddsoddiad i Gymru a chefnogi busnesau i greu mwy o swyddi.