Sefydliad y Merched yn dathlu'r 100
- Cyhoeddwyd
Bydd Sefydliad y Merched yn cynnal arddangosfa yn Ynys Môn i ddathlu pen-blwydd y mudiad yn 100 oed.
Bydd cannoedd o aelodau o Sefydliad y Merched yn ymgynnull ar Ynys Môn, man geni cangen Brydeinig gyntaf y mudiad, er mwyn ymweld ag arddangosfa canmlwyddiant Sefydliad y Merched yng ngwesty'r Bulkeley, Biwmares ar 16-17 Mai.
Mae'r arddangosfa yn cynnwys 13 panel pum troedfedd wrth dair troedfedd wedi eu creu gan aelodau'r mudiad. Mae pob panel yn portreadu cyfnod penodol yn hanes Sefydliad y Merched.
Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys storïau digidol fydd yn cyfleu atgofion, agweddau, teimladau a phrofiadau aelodau'r mudiad, ynghyd â gwaith celf tri dimensiwn.
Dywedodd Ann Jones, Cadeirydd Sefydliad y Merched Cymru: "Mae'r Arddangosfa yn ffordd wych i Sefydliad y Merched yng Nghymru gychwyn y dathliadau o 100 mlynedd o ysbrydoli merched, gan ddod â'r cyfraniad a'r dylanwad mae Sefydliad y Merched wedi cael ar gymunedau a'r wlad dros y 100 mlynedd diwethaf yn fyw.
"Yn dilyn lansiad y paneli ar Ynys Môn, bydd yr arddangosfa yn teithio dros y wlad er mwyn i'r cyhoedd fedru mwynhau a dysgu am hanes cyfoethog Sefydliad y Merched.
"Bydd yn cael ei harddangos yn Sioe Amaethyddol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a chynhadledd flynyddol Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru ym mis Medi.