Menyw'n pledio'n euog i ddynladdiad ei mab 7 oed
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 43 oed o Hwlffordd wedi cyfaddef iddi ladd ei mab saith oed yn eu cartref ddechrau'r flwyddyn.
Fe blediodd Papaipit Linse yn euog i ddynladdiad Louis Linse ar sail cyfrifoldeb lleiedig, ond yn ddieuog i gyhuddiad o'i lofruddio.
Dywedodd Caroline Rees KC wrth Lys y Goron Abertawe nad oedd yr erlyniad am ofyn am achos llawn wedi i'r diffynnydd bledio'n euog i ddynladdiad.
Cafodd Linse ei dychwelyd i'r ddalfa, ble mae hi'n derbyn triniaeth seiciatryddol.
Fe fydd yn cael ei dedfrydu ar 13 Rhagfyr, pan fydd tystiolaeth seiciatryddol yn cael ei chyflwyno.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol y Farchnad Uchaf yn Hwlffordd am 10:45 fore Mercher 10 Ionawr.
Yn fuan wedi hynny daeth cadarnhad bod bachgen saith oed wedi marw.
Dywedodd y Barnwr P H Thomas KC wrth y gwrandawiad: "Mae hwn yn amlwg yn achos sensitif iawn ac yn un drasig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2024