Gethin Evans: 'Chwilio am fy swydd berffaith'

  • Cyhoeddwyd

Mae Gethin Evans yn wyneb cyfarwydd fel cerddor a chyflwynydd, ond ers blynyddoedd mae ei waith bob dydd o fewn y maes cymdeithasol.

Ond ac yntau yn ei 40au, mae wedi bod yn pendroni os ydi o yn y swydd iawn. Mewn rhaglen i Radio Cymru mae’n rhoi cynnig ar wahanol fathau o waith - a chael cyngor ei dad, fel bu’n egluro wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Gethin Evans, sydd wedi bod yn gweithio yn y maes cymdeithasol ers blynyddoedd

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn cwestiynu os ydw i yn y swydd iawn.

Dwi’n mwynhau be’ dwi’n gwneud, ond alla i ddim peidio meddwl os oes ‘na yrfa arall buaswn i wedi gallu ei ddilyn. Felly, es i at y person sy’n fy adnabod orau: Mam. Beth oedd hi’n meddwl o’n i am fod ar ôl tyfu fyny?

Yn ystod y sgwrs, ac, yn ei doethineb arferol, fe wnaeth hi awgrym gwych: “Gofyn i dy dad.”

“Pam?! Be’ mae o’n gwybod am ddim byd?!”

“Mae o wedi ymddeol fel cynghorydd gyrfaoedd ac yn kind of nabod chdi.”

Wrth gwrs!

Troi at fy nhad, a’i gyngor o? Trio ambell swydd wahanol. Profiad gwaith, medda fo. Gwaith di-dâl?! Gwirfoddoli (eto, di-dâl).

Ond roedd o’n syniad da, felly dyna’n union wnes i fel rhan o raglen ar gyfer BBC Radio Cymru Diwrnod Cyntaf: Gethin Evans.

Disgrifiad o’r llun,

Gethin a'i dad Bryn Evans

Tyllu twll

Dwi wedi bod eisiau gyrru digger ers i mi ymweld â chwarel yn Awstralia oedd yr un maint â Bath (y lle).

Darllenais erthygl yn ddiweddar (wel, gweld ar TikTok) oedd yn sôn bod posib gallu gyrru diggers o’ch cartref, yn rhithiol. Codi o’r gwely, eistedd wrth gyfrifiadur, a symud pridd yn Awstralia - cysyniad o dystopia llwyr i rai. Dim i fi!

Felly, dyma fynd i Ddeiniolen i gyfarfod dyn sydd efo digger.

Disgrifiad o’r llun,

Gethin, Martin... a'r 'digar'

Roedd Martin yn ddigon caredig i adael i mi gael tro a fy nhasg gyntaf yn y digger (a’r olaf digwydd bod) oedd codi boncyff.

Yn hytrach na chodi boncyff, gwnes i greu twll enfawr maint bath (yr offer 'molchi). Fe neidiodd Martin ar y digger a llenwi’r twll, a finnau’n gorffen y job yn lefelu’r twll gyda rhaw.

Aeth Martin ymlaen i godi’r boncyff gyda’r digger, a’i roi’n berffaith ar ben boncyff arall. Pan dwi’n tyfu fyny dwi isio bod yn Martin!

Dysgu hanes... a gweini cinio

Pan o’n i’n blentyn, yr unig swydd o’n i erioed ‘di gweld oedolion yn ei gwneud yn iawn oedd dysgu. Felly, dyma fi’n dychwelyd i’n hen ysgol - Eifionydd - lle ro’n i’n disgwyl croeso cynnes i’r bachgen lleol oedd wedi gwneud yn dda (heblaw am Hanes, wnes i fethu’n ofnadwy).

Doedd neb rili’n cofio fi, yr ysgol yn amlwg wedi gwneud yn wael yn hanes hefyd.

Y diwrnod hwnnw roedd ‘na dwll yn adnoddau dysgu’r ysgol. Athrawes yn sâl. ‘Mond un dyn o’n i’n nabod oedd yn gallu llenwi tyllau, Martin, ond roedd hwn yn dwll gwahanol!

Disgrifiad o’r llun,

Pob lwc yn yr arholiadau...

Er hyn, fe gamais i’r adwy. O’r holl oesau mewn hanes, ges i’r darn lle’r oedd Hitler a’r Natsïaid yn troi fyny. Anlwcus. Ond yn ffodus, ro’n i wedi darllen llyfr am Hitler (wel, cyfres o dri fideo ar TikTok).

Wrth sefyll o flaen 30 o bobl ifanc, sylweddolais yn gyflym bod y pwnc yn eithaf tywyll. Dywedais mod i angen mynd i’r tŷ bach, yr un hen esgus yn yr ystafell hanes, 30 mlynedd yn ddiweddarach.

Wrth dodgio lesson hanes (fel athro tro ‘ma) yn y cantîn, dyma Bethan, y rheolwraig yn gofyn: “Ti isio helpu i syrfio bwyd amser cinio?”

Pam lai? Os nad o'n i’n gallu rhoi gwersi, siŵr fedrai weini chips. Wrth gychwyn rhoi chips i blant Ysgol Eifionydd nes i sylweddoli rhywbeth eithriadol - o’n i’n wych yn ‘syrfio chips’.

Clywais un aelod o‘r tîm yn dweud fy mod i’n gweini'n gyflymach hyd yn oed na Gladys, sydd wedi bod yno ers 1996.

Roeddwn i ar dân. 115 plât o sglodion, un daten pob, ac un salad. Ar ddiwedd y shifft, fe awgrymodd Bethan, fel jôc, ddylwn i ‘ddod 'nôl fory’, ond o’n i’n clywed yr erfyn yn ei llais.

Disgrifiad o’r llun,

117 plât i'w olchi...

Gyrru trên

Mae gan Borthmadog ddau beth: Cob Records a thrên stêm. Wedi chwarae mewn bandiau ers y ’90au hwyr, yn lle dychryn cwsmeriaid Cob Records gyda fy ngwybodaeth arbenigol am y sin gerddorol Gymraeg (yn benodol rhwng 2005 a 2012), o'n i’n meddwl buaswn i’n troi fy sylwi at rywbeth haws. Trêns.

Mae trenau'n mynd yn ôl neu ymlaen, dim byd mwy cymhleth. Yr unig her o'n i'n ei rhagweld wrth yrru trên oedd arafu i stop yn yr orsaf gywir. Ond, fel rhywun sydd wedi arfer byw ei fywyd yn gyflym (yn benodol rhwng 2005 a 2012), dwi'n amau mai’r wers fwyaf fyddai dysgu sut i arafu o gwbl.

Pan gyrhaeddais, dechreuon nhw egluro’r llwybr gyrfaol i fod yn yrrwr trên. O'n i’n meddwl mai jôc oedd o ac yn chwilio am gamerâu cudd y Brodyr Bach.

“Gallwch chi ddechrau drwy daflu glo i’r injan, fel man cychwyn.”

Lympiau mawr o lo. A gan fod Blaenau Ffestiniog yn bod yn awkward, eto, gan benderfynu bod i fyny allt o Port, byddai hyn yn golygu llwytho glo non-stop am dros awr. Mynadd.

Felly, dim gyrru i fi, ond be’ am gael rhoi ‘twt twt’ i’r corn? Erfyn am gael gwneud. Swnian.

Yn y diwedd, ges i ganiatâd y gyrrwr. Wedi deall ma’ canu’r corn fel arfer yn golygu bod y trên ar fin symud. Roedd fy ‘twt twt’ i wedi creu bach o banig ar y platfform. Cynllun y gyrrwr i fy nhanseilio mae’n rhaid. Sabotage.

'Pobl sy'n gwneud gwaith'

Ar ddiwedd y dydd, dwi wedi dysgu mai nid y gwaith ei hun sy’n rhoi mwynhad, ond y bobl. Yn y gegin, roedd Bethan a'r criw yn edmygu fy ffordd o weini llond plât o chips i dros gant o blant.

Yn Neiniolen, roedd gweld Martin yn chwifio ei fwcad o gwmpas lle fel dyn gwyllt yn codi calon rhywun. Ar y trên, er bod 'na elfen o sabotage, yr hogia' yn chwerthin ar bob cwestiwn oedd yn neud y bantz.

Efallai nad ydi’r swyddi yma i mi, ond maen nhw wedi fy atgoffa o’r hyn sy’n wirioneddol bwysig: pobl sy’n gwneud gwaith.

Os oes gynnoch chi gwmni da, wnewch chi byth weithio diwrnod yn eich bywyd.

Pynciau cysylltiedig