Llywelyn Williams, y pencampwr byd o Ben Llŷn
- Cyhoeddwyd
“’Naethon ni ddod allan i gael yr aur yn ôl i Gymru ag mi gafon ni o!”
Mae'r syrffiwr Llywelyn Williams o Abersoch wedi cael buddugoliaeth arall i'w enw ar ôl dod i'r brig ym Mhencampwriaethau'r Byd Syrffio Para ISA yng Nghaliffornia.
Dyma’r trydydd tro iddo ennill yn y categori penglinio / ar ei draed i ddynion wedi iddo hefyd ennill yn 2022 a 2023.
Meddai wrth Cymru Fyw wedi ei fuddugoliaeth ym mis Tachwedd 2024: “Mae’n deimlad gwych unwaith eto.
"Mae’r pressure yn mynd yn fwy bob blwyddyn i gadw y teitl ac mae pawb yn gwella yn ei syrffio i gwffio i gael y fedal aur.”
Cefnogaeth
Mae’r ymateb o Ben Llŷn wedi bod yn wych, meddai: “Mi ydw i dal wrthi yn trio diolch i bawb am yr holl negeseuon a'r comments gan bobl adra.
"Mae'n wych i weld faint sydd yn dilyn drwy'r wythnos. Oeddwn yn gwbod fysa y flwyddyn yma yn un i weithio'n galed ar ôl enill yr US Open Adaptive Championships ym mis Medi.”
Mae Llywelyn wedi dod yn bell ers colli ei goes mewn damwain pan oedd yn 16 mlwydd oed.
Ar y diwrnod hwnnw yn 2011 roedd yn teithio ar ei ffordd adref i Abersoch o ochrau Llanbedrog ar ei sgrialfwrdd (skateboard) pan gafodd ei daro gan gar.
Treuliodd sawl wythnos yn Ysbyty Brenhinol Lerpwl, lle gafodd ei roi mewn coma. Ceisiodd y doctoriaid achub ei goes, ond ar ôl pythefnos bu'n rhaid ei thynnu.
Ond o fewn blwyddyn, roedd yn ôl ar ei fwrdd syrffio ac wedi addasu ei dechneg i herio'r tonnau.
Ers hynny, mae'r syrffiwr wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau syrffio addasol ar gyfer pobl ag anableddau gan gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth y byd wyth gwaith.
Felly beth yw cyfrinach ei lwyddiant mewn maes mor gystadleuol?
Meddai: “'Naethon ni weithio'n galed eleni ar mynd i'r gym yn y Warren Abersoch. Ac hefyd bwyta'n iach.
"Lwcus tro 'ma hefyd gafon ni run da o donnau adra cyn dod allan imi gael ymarfer. Rhan amla' does yna ddim tonnau adra i gael i mewn i syrffio drwy'r haf felly mae y stress lot mwy cyn mynd i'r comps.”
Mae Llywelyn yn chwilio am noddwyr ar gyfer ei ymgais i ymuno â thim Prydain ar gyfer y Gemau Paralympaidd.
Fel mae'n dweud, mae wedi bod yn flwyddyn brysur ond beth mae'r pencampwr byd yn gwneud i ymlacio?
Meddai: "Time out o bawb. Gwrando ar gerddoriaeth a sbio ar y tonnau.
"Mae'n deimlad od i fod ar draeth a phawb yn ffrindau ond allan mewn heat does 'na ddim siarad."
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022