Codi gwydr i'r dafarn leol
- Cyhoeddwyd
Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer fawr o dafarndai wedi cau mewn ardaloedd gwledig a threfol yma yng Nghymru.
Yn ystod cyfnod economaidd anodd mae llai yn mentro i'r dafarn leol, ac mae hefyd cystadleuaeth gan boblogrwydd y siopau coffi mawr.
Berwyn Hughes ydi tafarnwr y Llew Coch yn Ninas Mawddwy. Bu'n trafod dyfodol y dafarn leol gyda Cymru Fyw:
Natur y 'gystadleuaeth'
Mae tafarndai Dinas Mawddwy wedi cystadlu ers blynyddoedd â dau gaffi yn yr ardal, Melin Meirion a Caffi Carys. Eleni, agorodd siop goffi newydd yn yr Hen Siop.
Yn bersonol, 'dwi'n gweld hyn yn hwb i'r pentre' yn hytrach na chystadleuaeth i ni yma yn y Llew Coch. Mae'n help i ddenu pobol i'r ardal gan roi mwy o ddewis i ymwelwyr.
Addasu'r gwasanaeth
Mae'r Llew Coch wedi bod yn fan gorffwys i nifer o deithwyr, cyn iddyn nhw fentro dros y Bwlch neu gael seibiant tawel i fwynhau'r ardal.
Mae wedi bod yn ganolfan dda i deuluoedd gyfarfod hanner ffordd, rhwng naill ardal a'r llall ar adegau fel y Nadolig ac ati.
Oherwydd rheolau yfed a gyrru, pur anaml bydd rhywun yn archebu cwrw yn ystod yr awr ginio, mae te neu goffi yn llawer mwy poblogaidd.
Efallai, erbyn heddiw, ein bod yn gorfod cynnig gwell dewis o goffi - dydy instant ddim yn ddigon.
Bydd pobl erbyn hyn yn holi am goffi ffilter, cappuccino, latte, mocha, espresso neu decaf. Anaml iawn mae pobl yn holi am goffi cyffredin.
O achos gofynion gwahanol y bobl sy'n dod drwy'r drws, mae gofyn inni fod ag amrywiaeth o ddiodydd yma ar eu cyfer.
Cynnyrch lleol
'Dwi'n credu mai'r fwydlen sy'n dal yn ein cynnal yma yn y Llew Coch. Y coginio cartref sydd i weld yn tynnu pobl i ymweld â ni dro ar ôl tro. Mae mwy o'r fwydlen yn cael ei baratoi yma yn y gegin, yn hytrach na phrynu fel pre-processed.
Mae'r cig yn gig lleol, y cig eidion i gyd yn dod o Fachynlleth gan William Lloyd Williams ac mae'r cig oen oddi ar fynydd Camlan, fferm y teulu. Mae'r brithyll yn cael eu dal ar Lyn Clywedog.
Mae pethau bach fel yma i weld yn plesio'r cwsmer. Mae mwy o bwyslais y dyddiau hyn ar 'filltiroedd y bwyd' ac mae cynnyrch lleol lawer gwell.
Y dyfodol
Dydy hi ddim mor ffasiynol ag arfer i fynd allan min nos i yfed. 'Da ni'n gweld hefyd fwy o bobl yn prynu diodydd yn rhad mewn archfarchnadoedd ac yn yfed gartref yn hytrach na'r tŷ tafarn.
Heddiw, rhaid i ni gynnig lle ar gyfer pwyllgorau, gwneud yn siŵr bod ein bwydlen yn flasus ac yn fforddiadwy ac ein bod yn creu awyrgylch saff ar gyfer y teulu.
'Dwi'n rhagweld dyfodol i dafarndai Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd fel Meirionnydd.
Mae buddsoddi wedi bod yn digwydd yn yr ardal hefo Zipworld Titan, Bounce Below, Antur Stiniog a llwybrau beic Coed y Brenin i gyd yn denu teuluoedd i ddod ar eu gwyliau i'r ardal.
Y fantais fawr sydd gennym ni yma yw ein bod yn medru cynnig cymaint o amrywiaeth adloniant o fewn awr/awr a hanner o'r man aros.
Yn sgil hyn hefyd, mae llawer o bobl ifanc yr ardal wedi dechrau ymgartrefu unwaith yn rhagor yn y fferm deuluol gan arallgyfeirio er mwyn hybu incwm ac ati.