Hoff Leoedd yn ardal y Steddfod
- Cyhoeddwyd
Fel rhan o ymgyrch Hoff Le BBC Cymru Fyw, rydyn ni wedi gofyn i rai o enwogion ardal Caerffili a'r Cylch i ddewis eu hoff le yn yr ardal. Beth am ymweld â rhai ohonyn nhw yn ystod wythnos y Steddfod?

Castell Caerffili - Matt Johnson, cyflwynydd
"Dyma lun ohona i tu allan i Gastell Caerffili - y castell mwyaf yng Nghymru. Fi 'di bod yn lwcus cael ymweld â lot o lefydd arbennig yng Nghymru - ond does unman yn debyg i adre! Fi'n ymfalchio'n fawr yn fy ardal i - ac ma' Castell Caerffili yn rhywle dyle Cymru gyfan ymfalchio ynddo.
"Hefyd, cafodd y ddawns ysgol ei chynnal yno - felly mae'r lle'n dal llawer o atgofion hapus!"

Mynydd Caerffili - Heledd Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015
"Dyma lun o'r olygfa wrth sefyll ar frig ein mynydd bach yma yng Nghaerffili. Un o fy hoff fannau i gerdded gyda chwmni fy nghi, Cadi - yn enwedig ar nosweithiau yn yr haf er mwyn cael seibiant bach rhag yr holl adolygu!"

Mynydd Machen - Manon Carpenter, pencampwraig beicio mynydd
"Rwy'n beicio mynydd dros y byd i gyd. Ond, pan fi'n dod nôl i Gymru, un o fy hoff lefydd i fynd yw copa mynydd Machen. Mae'n bosib gweld am filltiroedd i bob cyfeiriad ac rwy'n teimlo mod i wir wedi cyrraedd adre!
"Mae'r daith i fyny'n un anodd ond ma' dod lawr yn hollol ddiymdrech. 'Sdim ots os ma' hi'n heulog, glawio neu bwrw eira, fi wastad yn cyrraedd y gwaelod gyda gwên fawr ar fy ngwyneb!"

Castell Caerffili - Sara Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015
"Wrth eistedd ar gyrion ffos Castell Caerffili, daw atgofion melys o fwydo'r hwyaid tra'n blentyn, a chael fy swyno gan chwedl Arglwyddes Werdd Caerffili. Dwi'n amau mae dyma lle ddechreuodd fy chwant i ymchwilio i hanes a threftadaeth ein cenedl, a wnaeth arwain at radd mewn hanes, a gyrfa'n addysgu'r pwnc gan obeithio tanio'r un chwilfrydedd mewn eraill. Roedd gweld dros 4,000 yn cyrraedd y castell wedi gorymdeithio trwy'r dref ar gyfer yr Ŵyl Gyhoeddi, a chroesawu'r Eisteddfod i'n plith, wir wedi ychwanegu at yr atgofion melys sydd gennyf am yr amddiffynfa ganoloesol hon a eisteddai yng nghanol fy nhref enedigol."

Coed Craig Ruperra - Tim Rhys-Evans, arweinydd Only Men Aloud
"Er i fi gael fy nghodi yn ardal Caerffili, doedd gen i ddim syniad bod y lle yma'n bodoli tan fy mod yn symud i fyw wrth ymyl rhai blynyddoedd yn ôl. Mae e'n 'hidden gem' go iawn.
"Pan oeddwn i'n ymarfer ar gyfer rhedeg y marathon, bydden i'n gwibio i fyny ac i lawr y llwybr rhyw dair gwaith yr wythnos. Ond gwell fyth ydy cerdded y llwybr yn hamddenol i fyny at adfeilion Castell Ruperra ac edmygu'r golygfeydd godidog o gopa'r graig. Ma'r wac i fyny'n hyfryd - ac yn enwedig o brydferth adeg mis Mai pan mae clychau'r gog allan."

Llancaiach Fawr - Simon Weston, awdur, ymgyrchydd a chyn-filwr Rhyfel y Falklands
"Fel plant, bydden ni'n mwynhau anturiaethau mawr yng ngerddi ystâd Llancaiach. Yn wir, roedd cyrraedd y lle yn antur yn ei hun. Bydde criw ohonon ni'n cychwyn ben bore gyda'n brechdanau jam a'n poteli sgwash ac yn croesi caeau a nentydd cyn sleifio i mewn drwy'r gerddi. Wedi'n hysbrydoli gan hanes y lle, bydden ni'n treulio oriau yn ail-greu rhaglenni teledu fel y 'The Three Musketeers' a 'Flashing Blade' - yn brwydro pob math o elynion gyda chleddyfau wedi eu creu o goed pren. Mae'r lle'n dal fy nychymyg hyd heddiw."
Ewch i dudalen Hoff Le i weld mwy o luniau ac am fanylion sut i rannu eich hoff le chi yng Nghymru!