Teyrngedau i'r pysgotwr Moc Morgan
- Cyhoeddwyd
Bu farw Moc Morgan, y darlledwr a'r pysgotwr o Dregaron.
Roedd Moc Morgan yn wyneb a llais cyfarwydd i wylwyr S4C a gwrandawyr Radio Cymru, yn gyflwynydd a chyfranwr cyson i raglenni am fywyd cefn gwlad. Roedd ganddo gyfres ddiweddar ar S4C, Byd Moc.
Roedd yn arbenigwr ar gawio plu pysgota, gan ysgrifennu nifer o lyfrau, gan gynnwys Trout and Salmon Flies of Wales a Fly Patterns for for the Rivers and Lakes of Wales, yn ogystal â'i hunangofiant, Byd Moc.
Roedd yn weithgar iawn yn ei gymuned yn ardal Tregaron a Phontrhydfendigaid ac roedd yn gefnogwr brwdfrydig o eisteddfodau lleol a bywyd cefn gwlad.
'Dyn anhygoel'
Mewn teyrnged i Moc Morgan, dywedodd y newyddiadurwr Lyn Ebenezer: "Ryn ni'n sôn am bobl pan maen nhw'n marw fel pobl unigryw, wel mae o'n hollol wir am Moc. Weles i ddim dyn tebyg yn fy mywyd.
"Roedd e'n ddyn anhygoel, mwya'n byd o ddyletswyddau oedd e'n gael, hapusa'i gyd oedd e.
"Doedd e byth yn dweud na, helpa fe unrhyw un."
Wrth drafod ymweliad cyn-Arlywydd UDA, Jimmy Carter, â Chymru ar ddiwedd y 1970au, ychwanegodd: "At Moc ddaeth e i bysgota'r Teifi a Llyn Clywedog.
"Ond dywedodd Moc, wrth bysgota does 'na ddim ots pwy sy'n gafael yn y wialen tramp yntau arlywydd, yr un peth oedd y pysgota yn gael."
'Atgofion hapus'
Roedd Moc Morgan yn bysgotwr gwybodus a brwdfrydig, ond yn ôl Lyn Ebenezer "roedd e'n llawer iawn mwy na physgotwr a darlledwr.
"Daeth i'r pentref fel prifathro'r ysgol fach, a byddai'n pysgota drwy'r nos, ac yn ôl wrth ei ddesg erbyn 8:30.
"Hefyd roedd gyda fe gwmni drama yma, roedd e'n dysgu plant yr ysgol i gystadlu yn yr Urdd, oedd e ar bob pwyllgor oedd yn bod, yn ogystal â bod yn un o sefydlwyr Eisteddfod fawr Pantyfedwen."
Aeth ymlaen i ddweud: "Mae'n hyfryd meddwl mai atgofion hapus, atgofion doniol sy'n dod nôl am Moc, bydde fe'n falch o hynny hefyd dwi'n siwr."