Hoff Le: Mwy o'ch lluniau chi
- Cyhoeddwyd
Diolch i bawb sydd wedi rhannu eu hoff lefydd gyda BBC Cymru Fyw hyd yma. O Gwm Rhondda i'r Gogarth Fawr, dyma'r detholiad diweddaraf yn y gyfres.
Cofiwch, mae 'na ddigon o amser eto i gyfrannu at Hoff Le - naill ai trwy Twitter, Flickr neu e-bost. Mae'r manylion cysylltu i gyd ar y dudalen yma.

Dyma hoff le ar y ddaear @llwybrllaethog

"'Does unman yn debyg i adre!" - Ffion a Gorwel Owen

Tŵr Paxton - Eluned Owena Grandis, Trevelin, Patagonia
Meddai Eluned: "O fewn munudau o'r maes parcio rydych chi'n cyrraedd y tŵr a chewch fwynhau golygfeydd panoramig 360° o Ddyffryn Tywi a thu hwnt - ardal gyfoethog iawn o ran hanes a thirlun. Lle delfrydol i gael picnic yn yr haf neu fynd ar y sled (gyda gofal!) yn y gaeaf.
"Er 'mod i erbyn hyn yn byw yng nghanol mynyddoedd mawreddog yr Andes ym Mhatagonia gyda'm gŵr, mae lle arbennig yn fy nghalon i'r lle hwn a dyna un o'r mannau cyntaf y byddaf yn mynd â'm mab bach pan fyddaf yn mynd ag ef i Gymru am y tro cyntaf."

Yr haul yn machlud yn Aberdesach - Catrin Owen

Cwm Rhondda - Debora Morgante. "Mae rhywbeth hudol yn y lle hwn nad wy'n gallu ei ddisgrifio."

Nefyn - hoff le Mike West. "Ar ôl iddynt ymddeol, gwnaeth fy rhieni fwynhau 20 mlynedd hapus dros ben yn Nefyn ymhlith pobl croesawgar Pen Llŷn ac ynghanol golygfeydd godidog yr ardal," meddai.

Deiniolen a Chaerdydd. Liam Ellis: "Adra, adra ac adra!"

Llyn Bodafon. "Un o'r seddi gorau yn y byd," meddai Elen Vaughan

Tŷ Coch Porthdinllaen, hoff le Alaw Fôn

Llyn Talyllyn yn y dydd/Bae Caerdydd gyda'r nos - Rhiannon Williams

Andrew Misell - Y Castell Gwyn, Sir Fynwy. "Mae pum mlynedd rhwng y ddau lun yma."

Y Gogarth Fawr, Llandudno. Yn orlawn o atgofion i Heledd Sian. "Yn bendant dyma fy hoff le."

Moelfre, Sir Fôn - Gwen Saunders Jones. "Dyma bentra' genedigol fy nheulu ar ochr fy nhad, a'r ysgol gynradd ora' yn y byd."

Y Bryn, Cwmllynfell - Rhys ap William

"Un o'm hoff lefydd yng Nghymru yw Llanrwst, 'nenwedig y bont a'r bwyty, Tu Hwnt i'r Bont" - Sion Jones

Betws a Chaerdydd - Gwydion Lyn

"Rwy'n dringo fyny Moel Famau ar ôl gwaith unwaith yr wythnos er mwyn adfer fy egni," meddai Shaun Burkey o Ddyffryn Clwyd. "O'r copa ar ddiwrnod braf mae'n bosib gweld Eryri, Ynys Manaw, ardal y llynoedd, mynyddoedd y Pennines, Lerpwl ac hyd yn oed tŵr Blackpool."