Cwest: 'Hyd at 45 munud cyn galw 999'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed y gallai fod wedi cymryd 45 munud cyn i alwad 999 gael ei gwneud pan gafodd milwr wrth gefn ei daro yn wael ar ymarferiad gyda'r SAS.
Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013, a bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Clywodd y cwest nad oedd parafeddygon wedi cael gwybod am union leoliad Craig Roberts, gafodd ei daro'n wael wrth i'r tymheredd gyrraedd 27C ym Mannau Brycheiniog.
Daeth y criw o hyd i gerbyd y fyddin tua 10 munud ar ôl cael eu gyrru i'r safle, ac yna bu rhaid iddyn nhw gerdded am hanner awr i gyrraedd y milwr.
Clywodd y cwest gan y criw bod pawb wedi "gwneud eu gorau" i geisio achub ei fywyd ar y diwrnod hwnnw.
Dywedodd un o feddygon y fyddin oedd yn yr ymarferiad nad oedd yn ymwybodol y dylai'r gweithgaredd fod wedi ei hatal gan fod milwr arall wedi dioddef o salwch oherwydd y gwres yn gynharach yn y dydd.
Mesurau diogelwch
Yn gynharach, clywodd y cwest gan un o hyfforddwyr y fyddin am y mesurau diogelwch oedd i fod i amddiffyn y milwyr oedd yn cymryd rhan.
Dywedodd y milwr, gafodd ei alw yn 1F, bod y rhai oedd am gymryd rhan wedi gwneud cyfres o brofion ffitrwydd cyn yr ymarferiad, a bod dau draean wedi tynnu'n ôl cyn yr ymarferiad ger Pen-y-Fan.
Roedd 1F eisoes wedi dweud wrth y cwest nad oedd yn ymwybodol o gyfarwyddyd y Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n dweud y dylai ymarferion ddod i ben os yw milwyr yn dioddef o salwch oherwydd y gwres.
Mae'r cwest yn parhau.