Ateb y Galw: Derek Brockway

  • Cyhoeddwyd
"Dyw'r rhagolygon ddim yn dda dwi'n ofni!"
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw'r rhagolygon ddim yn dda dwi'n ofni!"

A ninnau ar drothwy'r haf pwy well na dyn tywydd BBC Cymru, Derek Brockway i Ateb y Galw! Mi gafodd o'i enwebu gan y cyflwynydd newyddion, Tomos Dafydd

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Rwy'n cofio bod tua pedair oed ac yn anhapus iawn gyda fy nhad gan ei fod o wedi tynnu dymi allan o fy ngheg i a'i daflu ar y llawr.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Roedd 'na ferch yn fy nosbarth o'r enw Michelle Hatcher... ro'n i wedi dwli arni hi!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na nifer! Yn enwedig pan yn cyflwyno'r tywydd. Dwi wedi methu fy nghiw cwpl o weithie, ond un tro yn ystod darllediad byw dwi'n cofio gweld Rhodri Lewis, un o ohebwyr Wales Today, yn tywallt dŵr dros ei grys. Mi ofynais i iddo fe 'Have you been dribbling?' Yn anffodus roedd fy meic i'n fyw ac fe glywodd y gwylwyr fy nghwestiwn!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Pan fu farw fy nhad ym mis Chwefror eleni.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Siarad am y tywydd drwy'r amser!

Dy hoff ddinas yn y byd?

Efrog Newydd

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n wlyb yn Efrog Newydd hefyd Derek!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mhenblwydd yn 40 yng nghlwb BBC Cymru yng Nghaerdydd. Roedd hi'n fendigedig i gael cymaint o ffrindiau o fy nghwmpas. Roeddwn i hefyd wedi gwisgo fel Björn o ABBA ar gyfer yr achlysur!

Oes gen ti datŵ?

Na

Beth yw dy hoff lyfr?

Well, fy llyfr i blant 'Sblash gyda Fflap a Seren' wrth gwrs! Mae llyfrau eraill ar gael!

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy nillad glaw! Mae'r tywydd yng Nghymru mor gyfnewidiol fe fuaswn i'n ffôl i gychwyn taith gerdded yn unrhyw le hebddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

"I ble'r aeth yr haul 'na?"

Beth oedd y ffilm ddiwethaf i ti ei gweld?

'The Railway Man'

Dy hoff albwm?

Mae 'na ormod ohonyn nhw, ond, dwi'n gwrando lot ar Fleetwood Mac yn ddiweddar.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Prif gwrs

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio bob tro. Mae'n braf medru siarad gyda bod dynol. Ry'n ni'n teipio gormod y dyddiau yma.

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Carwyn Jones. Bydde hi'n wych i weld sut beth yw rhedeg y wlad!

Pwy fydd yn ateb y cwestiynau yma yr wythnos nesaf?

Disgrifiad o’r llun,

"Esgusodwch fi p'run ohonoch chi 'di'r Prif Weinidog?"