Camgymeriad iaith arwydd Shirley Bassey
- Cyhoeddwyd
Mae arwydd dwyieithog sydd wedi ei osod tu allan i Ysbyty Plant Cymru er anrhydedd i'r Fonesig Shirley Bassey yng Nghaerdydd yn cynnwys camgymeriad sillafu Cymraeg.
Ddydd Sadwrn fe gafodd prif rodfa'r ysbyty ei enwi yn Shirley Bassey Way i gydnabod ei chefnogaeth i Apêl Arch Noa. Mae'r gantores yn un o brif noddwyr yr apêl.
Ond y geiriau Cymraeg ar yr arwydd newydd yw 'Ffordd Y Fonsig Shirley Bassey', yn hytrach na 'Ffordd Y Fonesig Shirley Bassey'.
Dywedodd llefarydd ar ran Apêl Arch Noa y bydd camau'n cael eu cymryd i gywiro'r camgymeriad.
"Mae'n bechod fod hyn wedi tynnu sylw oddi ar yr achlysur", ychwanegodd.