Pwy yw'r dadi?
- Cyhoeddwyd
Sul y Tadau dyma gyfle i ddarllenwyr Cymru Fyw 'nabod tadau rhai o enwogion Cymru. 'Dych chi'n gwybod pwy yw plant adnabyddus y dadis yma?
![Ydych chi'n gweld hwn yn debyg i rhywun?](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/412/mcs/media/images/83481000/jpg/_83481281_ioloowentadtudur.jpg)
Ydych chi'n gweld Iolo yn debyg i rhywun?
Dyma'r cyntaf, a mae mab enwog Iolo yr un ffunud ag ef. A dweud y gwir, mi fydden ni yn 'beep' pechu petaen ni yn rhoi cliw i chi pwy yw e.
![Dyma un ffarmwr doedd byth yn gorfod poeni am y tywydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/83503000/jpg/_83503462_cerwyndaviestadmarigrug.jpg)
Mae Cerwyn yn ffermwr ffodus iawn. Mae ganddo syniad go dda sut dywydd fydd hi!
Cerwyn yw hwn, a mae'n dad i wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr S4C. Mae ei ferch ar y sgrîn boed law neu hindda.
![Mae angen sbectol haul ar Frank gan fod ei fab yn disgleirio mor aml!](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/83481000/jpg/_83481284_tadbale.jpg)
Mae angen sbectol haul ar Frank gan fod ei fab yn disgleirio mor aml!
Mae gan Frank gyfenw addas iawn o gofio beth mae ei fab enwog yn ei wneud!
![Ydy Dafydd yn dysgu wrth adrodd straeon a chanu?](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/83653000/jpg/_83653916_tadniaparri.jpg)
Ydy Dafydd yn dysgu wrth adrodd straeon a chanu?
Mae 'na wên braf ar wyneb Dafydd fel sydd yna ar wyneb ei ferch, a hynny er bod rhai o'i disgyblion iaith yn rhoi cur pen iddi hi ar adegau!
![Pwy yw Cyw o fab Ieuan?](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/83481000/jpg/_83481286_tadtrystan.jpg)
Pwy yw Cyw o fab Ieuan?
Mae Ieuan wrth ei fodd chwythu ei drwmped am lwyddiant ei fab. Bellach mae'n gorfod ei ddilyn o Steddfod i Steddfod
![Gwilym, ond pwy yw ei fab swynol?](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/83481000/jpg/_83481288_tadrhysmeirion.jpg)
Gwilym, ond pwy yw ei fab swynol?
Nawr, dyma Gwilym. Mae 'na sôn ei fod e'n cerdded yn bell i glywed ei fab enwog yn canu.
![Oes gyda chi unrhyw syniad pwy yw merch adnabyddus Huw, blantos?](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/83654000/jpg/_83654312_huwherbert.jpg)
Oes gyda chi unrhyw syniad pwy yw merch adnabyddus Huw, blantos?
Dyma Huw, a newydd hedfan y nyth mae ei gyw bach ef...
![Mae Norman o hyd yn cymryd y llwybr canol](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/mcs/media/images/83483000/jpg/_83483602_normanrobertstadjamieroberts.jpg)
Mae Norman yn un sy'n dilyn y llwybr canol
Ac yn olaf, Norman sydd yn hynod falch o'i fab meddygol sydd wedi profi llwyddiant ac enwogrwydd mewn maes arall hefyd.