Betsi Cadwaladr: Atal prif weithredwr
- Cyhoeddwyd
Mae Trevor Purt wedi cael ei atal o'i waith fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn syth, wedi i'r bwrdd gael ei osod dan fesurau arbennig ddoe.
Mae llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn chwilio am rywun i gymryd ei le dros dro, a bod hyn yn "weithred niwtral" i roi cyfle i'r bwrdd symud ymlaen.
Wrth groesawu'r mesurau arbennig i ddod, ychwanegodd cadeirydd y bwrdd, Dr Peter Higson: "Mae'n glir bod angen cefnogaeth sylweddol ar y bwrdd iechyd i gwrdd â'r heriau sy'n ein hwynebu."
Ychwanegodd: "Mae angen cael hyn yn iawn er lles pawb os yw'r bwrdd am ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng ngogledd Cymru ac adennill eu ffydd."
Dywedodd hefyd bod yr hyn a ddigwyddodd ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd yn "anfaddeuol, cywilyddus a ffiaidd".
Yn y senedd yn ddiweddarach mae disgwyl i'r gweinidog iechyd Mark Drakeford wneud datganiad pellach am y mesurau arbennig fydd yn rheoli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Fe wnaeth y gweinidog gyhoeddiad ddydd Llun y byddai'r bwrdd yn mynd dan fesurau arbennig yn dilyn adroddiad damniol i'r gofal ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Yn siarad ar BBC Radio Wales fore Mawrth, dywedodd Mr Drakeford na fyddai'r llywodraeth yn ceisio "rheoli'r manylion bychain" o fewn y bwrdd iechyd.
Dywedodd: "Byddwn ni yn gweithio drwy bobl sydd yng ngogledd Cymru, ac mae eu hymrwymiad i wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru yn enfawr."
Ychwanegodd: "Nid yw'r syniad bod Bae Caerdydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau manwl am yr hyn sy'n mynd ymlaen yng ngogledd Cymru yn un credadwy i mi."
'Colli hyder'
Ar raglen Newyddion 9 nos Lun, dywedodd y prif weinidog Carwyn Jones bod y bwrdd wedi "colli hyder pobl gogledd Cymru" a bod ei lywodraeth wedi cael ei gorfodi i gymryd y cam yma er mwyn adennill ymddiriedaeth y bobl leol.
Ychwanegodd Mr Jones mai dyma'r tro cyntaf i fwrdd iechyd yng Nghymru gael ei roi dan fesurau o'r fath, ac un peth oedd yn amlwg oedd bod angen i'r bwrdd iechyd gyfathrebu'n well gyda phobl gogledd Cymru.
Fe fydd 'mesurau arbennig' yn golygu bod y llywodraeth yn chwarae mwy o rôl yn rhedeg y bwrdd a gallai'r bwrdd gael eu hatal rhag gofalu am rai swyddogaethau dros dro.
Fore Mawrth, gwrthododd Mr Drakeford yr awgrym y dylai'r mesurau arbennig fod wedi eu gweithredu yn gynt, o ystyried adroddiad Tawel Fan.
Dywedodd: "Mae'r perthynas rhwng Tawel Fan a phenderfyniad ddoe yn wan achos bod Tawel Fan wedi digwydd mwy na 18 mis ynghynt.
"Ond, be ni'n mynd i 'neud heddi' yw esbonio'r broses ni wedi defnyddio, y broses ni wedi cytuno gyda'r Cynulliad.
"Pan ni'n 'neud dewisiadau difrifol fel hyn mae'n bwysig dros ben i gadw at y system sydd 'da ni, a 'neud y penderfyniadau mewn ffordd iawn."
Dadansoddiad Vaughan Roderick
Mae Llafur wedi ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ddwywaith ers datganoli.
Roedd y penderfyniad nad oedd dewis ond ymyrryd yn achos Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn un poenus i'r Llywodraeth felly.
Mae'n gyfystyr a chyfaddefiad nad ydy'r drefn a luniwyd ganddi yn darparu gwasanaeth teilwng i gleifion ar hyd rhanbarth eang o Gymru.
Er y bydd y Llywodraeth yn mynnu mai buddiannau cleifion oedd y peth pwysicaf ar feddwl gweinidogion wrth gymryd y penderfyniad fe fyddai'n naïf i feddwl nad oedd y ffaith bod etholiad cynulliad i'w gynnal ymhen llai na blwyddyn hefyd yn ffactor.
Roedd a wnelo buddugoliaeth annisgwyl y Ceidwadwyr yn Nyffryn Clwyd yn yr Etholiad Cyffredinol lawer â phroblemau diweddar Ysbyty Glan Clwyd a gellir disgwyl i record iechyd Llywodraeth Cymru fod yn o brif bynciau llosg etholiad 2016.
Mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth yn credu bod caniatáu i bethau barhau fel maen nhw'n yn opsiwn derbyniol ond mae 'na risg wleidyddol mewn ymyrryd hefyd.
Fe fydd hin anoddach i'r Llywodraeth feio eraill am unrhyw broblemau sy'n codi yn y gwasanaeth yn y Gogledd rhwng nawr a'r etholiad. Fe fydd yr 'hyd braich' yn diflannu a'r cyfrifoldeb yn sgwâr ar ysgwyddau'r gweinidog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2015