Velothon Cymru: Ras feicio yn gwylltio busnesau a thrigolion

  • Cyhoeddwyd
Mae arwyddion ffordd yn Y Fenni wedi cael eu difrodi mewn protestFfynhonnell y llun, South Wales Argus
Disgrifiad o’r llun,

Mae arwyddion ffordd yn Y Fenni wedi cael eu difrodi mewn protest

Mae honiadau y bydd ras feicio yn ne Cymru yn achosi i fusnesau golli allan yn ariannol ac yn gwneud i bobl deimlo'n gaeth i'w cartrefi, wrth i nifer o ffyrdd gael eu cau ar gyfer y ras.

Mi fydd Velothon Cymru yn cychwyn a gorffen yng Nghaerdydd ddydd Sul, gan ddilyn llwybr 140 cilometr o hyd fydd yn mynd â'r cystadleuwyr drwy Gasnewydd, Brynbuga, Y Fenni a Chaerffili.

Mae disgwyl i 15,000 o seiclwyr amatur a phroffesiynol gymryd rhan yn y ras, ac mi fydd lonydd ar gau i geir am ryw wyth awr yn ystod y dydd.

Mae nifer o fusnesau wedi cwyno y bydden nhw ar eu colled, ond yn ôl y trefnwyr mi fydd y ras yn cyfrannu tua £2m tuag at economi Cymru.

'Siomedig iawn'

Mae rhai o'r arwyddion ffyrdd sy'n hysbysu trigolion lleol ynglŷn â'r bwriad i gau ffyrdd wedi cael eu difrodi.

Yn ôl y prif weinidog, Carwyn Jones, fe ddylai'r trefnwyr fod wedi rhoi gwybod i bobl ynghynt am y trefniadau ar y ffyrdd, ac am yr effaith posib.

Ffynhonnell y llun, Velothon Wales
Disgrifiad o’r llun,

Manylion y ffyrdd fydd ar gau yng Nghaerdydd

Dywedodd perchennog canolfan arddio yn Llanbadog Fawr bod disgwyl iddyn nhw golli gwerth £10,000 o fusnes o ganlyniad i'r ras.

"Mi fydda ni'n disgwyl gwneud dipyn o elw adeg yma o'r flwyddyn felly mae hyn yn siomedig iawn," dywedodd Anna Jones ar raglen Jason Mohammad ar BBC Radio Wales.

"Fydd neb yn gallu dod atom ni o 0830 y bore tan 1530 y p'nawn."

Ategodd: "Does neb wedi rhoi cyfle i ni siarad ac esbonio mae hyn am effaith andwyol ar ein cwsmeriaid a'n staff."

'Cyfle i fusnesau'

Dywedodd David Evans, sy'n byw yn Nhalywaun, Torfaen, y bydd cau'r ffyrdd yn ei "ynysu" a'i fod wedi gorfod canslo ei gynlluniau "oherwydd does dim modd i mi fynd allan".

Ond yn ôl cadeirydd Clwb Feicio Caerffili, Steve Jenkins, mae'r ras yn gyfle i nifer o fusnesau gymryd mantais.

"Mi fydd 'na filoedd o seiclwyr yn dod yma, ac mae'n rhaid iddyn nhw fwyta, mae'n rhaid iddyn nhw gysgu," meddai.

"Mi fydd 'na nifer o bobl yn gwylio ac mi fydda nhw'n gwario pres ar hyd y llwybr."

Mae trefnwyr Velothon Cymru yn dweud eu bod wedi gwneud pob ymdrech i gysylltu gyda busnesau a thrigolion i sôn am y digwyddiad ac y byddai'n rhaid cau ffyrdd.

Meddai Andrew Taylor, cyfarwyddwr digwyddiadau Velothon Cymru: "Cafodd llwybr Velothon Cymru ei ddewis trwy ymgynghori gyda'r awdurdodau lleol.

"Rydyn ni'n deall y bydd y bydd cau rhai ffyrdd yn creu trafferthion ond mae hyn yn anorfod yn anffodus, ac yn rhan arferol o lwyfannu digwyddiad mor fawr â hyn.

"Mae Velothon Cymru'n gyfle gwych i Gymru ddangos ei thirlun eiconig a golygfeydd anhygoel, gyda disgwyl i'r cyfan ddod â £2 filiwn i economi'r wlad."

Dyma ffyrdd eraill ar gau dros y Sul:

Ffynhonnell y llun, Velothon Wales
Ffynhonnell y llun, Velothon Wales
Ffynhonnell y llun, Velothon Wales
Ffynhonnell y llun, Velothon Wales