Deiseb yn galw am warchod addysg gerddorol

  • Cyhoeddwyd
Orchestra

Mae deiseb wedi ei chyflwyno i lywodraeth y Cynulliad yn eu hannog i ddiogelu cerddoriaeth mewn ysgolion.

Dywed ymgyrchwyr fod nifer o awdurdodau lleol wedi cwtogi gwasanaethau cerddoriaeth oherwydd amgylchiadau ariannol yn wyneb toriadau i'w cyllidebau.

Nod y ddeiseb yw galw am warchod cyllideb ganolog ar gyfer addysg offerynnol proffesiynol mewn ysgolion.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cerddoriaeth yn rhan bwysig o'r cwricwlwm addysg ar gyfer disgyblion 5-14.

Un sydd wedi llofnodi'r ddeiseb ydy'r Dr Ann Griffiths.

"Mae'r sefyllfa yn amrywio o sir i sir. Rydym ni yma yn Rhondda Cynon Taf yn brwydro i achub y gwasanaeth yma," meddai.

"Dyna oedd nod cyngor Rhondda Cynon Taf - sef cau'r gwasanaeth cerdd."

Y pryder, meddai, oedd y byddai cynghorau eraill yn dilyn yr esiampl.

"Mae'r gwasanaeth cerdd yn Rhondda Cynon Taf yn parhau, ac mae hynny'n dangos bod ymgyrchu'n bwysig."

Goroesi

Ar raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru dywedodd Mari Pritchard , o Ganolfan Gerdd Williams Mathias, ac sy'n gadeirydd Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Cymru.

"O ran amserlen ma' na doriadau ar y gweill am ryw flwyddyn arall yn ôl beth rydym yn deall.

"Felly mae rhaid goroesi hyn a gwneud yn siŵr nad ydym yn rhoi tolc go iawn mewn addysg gerdd yng Nghymru achos byddai adfer hyn yn cymryd blynyddoedd - a dwi'n siw y byddai yna ddifaru."

Dywedodd yr arweinydd cerddorfaol Owain Arwel Hughes: "Dwi'n cefnogi popeth sy'n parhau i ddysgu cerddoriaeth yn ysgolion.

"Rydym wedi colli lot o bobl dda ym maes dysgu cerdd, mae rhaid i blant gael y cyfle i chwarae offerynnau.

"Dwi'n siarad â chymaint o bobl wnaeth ddechrau chwarae offerynnau trwy gerddoriaeth yn yr ysgol ac mae'n deg i ddweud bod cerddoriaeth wedi newid eu bywydau."

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o'r cwricwlwm yng Nghymru.

"Rhan bwysig o hynny yw caniatáu i ddisgyblion fwynhau cerddoriaeth drwy berfformio a chyfansoddi.

"Mae gwersi y tu allan i'r cwricwlwm ysgol yn cael eu darparu gan wasanaethau lleol yr awdurdodau lleol," meddai'r llefarydd.

"Mae arian ar gyfer y rhain yn cael ei ddarparu gan Grant Setliad Refeniw, ac mae'r modd mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu cyllido a'u cefnogi yn fater i'r awdurdodau lleol, yn ôl anghenion a blaenoriaethau.

"Rydym yn cydnabod y pwysau ar y gwasanaethau ledled Cymru.

"Dyna pam yn gynharach eleni i'r gweinidog addydsg sefydlu tasglu ar y gwsasnaethau cerdd, er mwyn ystyried gwahanol fodelau - o ddarpu gwasanaeth, gweithio mewn partneriaeth a hefyd cyflenwi offer cerddorol.

"Mae disgwyl i adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn fuan."