Barnu rheoleiddio triniaethau cosmetig
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau gan Lywodraeth Cymru i greu system drwyddedu orfodol i bobl sydd yn cynnig triniaeth amgen gyda nodwyddau aciwbigiadau ac electrolysis wedi cael eu barnu am beidio â rheoleiddio mathau eraill o driniaethau cosmetig.
Dywed corff o'r enw 'Save Face', sydd yn gorff hunan-blismona ac yn cynrychioli 300 o weithwyr meddygol, y gallai elfennau o'r Mesur Iechyd Cyhoeddus newydd greu dryswch i gwsmeriaid.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn hyderus y bydd argymhellion y llywodraeth yn creu diwydiant mwy diogel ac yn tawelu meddyliau cwsmeriaid.
Mae cyfarwyddwr 'Save Face', Ashton Collins, wedi dweud wrth BBC Cymru y dylid cynnwys triniaethau fel botox a thriniaethau golau laser fel rhan o gynlluniau'r llywodraeth.
"Beth mae hyn yn ei wneud ydi creu ychydig o ddryswch i gwsmeriaid achos wrth beidio a chynnwys rhai triniaethau sydd ar gael mewn mannau fel hyn fel salonau harddwch, mae'n creu'r ddelwedd fod dim ond achos bod gan y salon drwydded, yna mae popeth y maen nhw'n ei gynnig yn cael ei gynnwys [o dan y rheolau] ond mewn gwirionedd tydyn nhw ddim."
Trwyddedu gorfodol
Mae 'Save Face' am weld cynllun trwyddedu gorfodol i bawb sydd yn cynnig triniaethau cosmetig sydd ddim yn lawdriniaethau meddygol.
Dywed y corff y gallai hyn gynnig sicrwydd i gwsmeriaid sydd yn talu am driniaethau fel triniaeth tynnu blew o drwyn, pilion cemegol a llanwyr wynebau.
Yn ôl y corff fe ddylai'r Mesur Iechyd Cyhoeddus ymestyn i gynnwys pob agwedd o'r diwydiant cosmetig.
"Fe fyddai'n wych petai'r Llywodraeth yn ymestyn y rhwyd neu o leiaf gydnabod y cofrestrau gwirfoddol sydd mewn lle fel un ni, er mwyn codi ymwybyddiaeth i gwsmeriaid", meddai Mr Collins.
"Mae'r triniaethau hyn yn creu oddeutu £2.7 biliwn yn y DU pob blwyddyn", meddai. Ychwanegodd: "Mae'n rhaid cael gwell rheoleiddio ac addysgu gwell am y triniaethau hyn".
Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda llywodraeth y DU i fwrw 'mlaen gyda nifer o awgrymiadau yn yr Adolygiad o Reoleiddio Triniaethau Cosmetig, yn cynnwys llanwyr deintyddol a botox.
"Os na fydd llywodraeth y DU yn gweithredu yn y maes hwn, bydd Mesur Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi'r grym i weinidogion i ehangu deddfwriaeth arbennig i gynnwys triniaethau eraill heblaw am aciwbigiadau, tyllau cyrff, electrolysis a thatŵs."
"Rydym yn hyderus y bydd ein argymhellion yn creu diwydiant mwy diogel a medrus, fydd yn tawelu meddyliau cwsmeriaid a gweithwyr yn y maes yng Nghymru."