Saith oes Steddfod Beth Angell
- Cyhoeddwyd
O syrffed y dyddiau cynnar i wefr Maes B, mae'r digrifwraig Beth Angell yn rhannu ei phrofiadau hi o'r Eisteddfod ar draws y blynyddoedd.
Pan dwi'n sôn am 'y cylch Eisteddfodol' dwi ddim yn cyfeirio at gerdded o amgylch y maes am oriau dibendraw. Yn hytrach, sut ma'r rhod wedi troi yn fy neugain mlynedd o fynychu Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Fel y pechodau marwol neu gantrefi Dyfed, mae saith cam wedi bod i fy mhrofiad. 'Saith oes Eisteddfodol' yn hytrach na 'Saith oes dyn', os liciwch chi!
Felly dyma rannu fy mhrofiadau am y saith cam yna ac esboniad efallai pam nad ydw i cweit yn barod i weld y cylch yna'n cau.
Cam 1: Môr o bengliniau
Mae fy nghof cyntaf o'r Eisteddfod yn hynod ddiflas. Dwi'n siwr fod 'na gyfnodau o fwynhad a rhealtwch ond y syrffed sydd wedi aros yn y cof!
Y dyddiau di-ddiwedd o gael fy llusgo o amgylch y maes, ar dân i gael mynd i babell y Mudiad Ysgolion Meithrin i gael lliwio mewn (ia - syml oedd fy nyheadau bryd hynny!) - ond yn gorfod aros yn fy unfan ymhlith môr o bengliniau wrth i fy rhieni oedi - eto fyth - i siarad â phobl nad oeddwn yn eu hadnabod.
Roedd yr unig lygedyn o olau yn dod ar ffurf rhyw 'uncle' neu gilydd yn gwthio darn deg ceiniog i'm dwrn, gan sibrwd yn ffug dawel: "Paid â deud wrth dy fam!"'
Dwi'n amau dim mai'r cyfnod yma sydd i feio am fy obsesiwn â esgidiau - gan mai dyma'r oll oedd o fewn fy nghyraedd. Mae'n obsesiwn sydd wedi costio'n ddrud i mi dros y blynyddoedd - ond stori arall yw honno.
Cam 2: Rhyddid newydd
Mae rhieni yn teimlo fod yr Eisteddfod yn lle digon saff i adael i'w plant redeg yn rhydd ac o'm mhrofiad i roedd y rhyddid yn felys iawn. Dyddiau hyfryd hir felyn tesgog o grwydro'r maes gydag arian hufen iâ ym mhoced fy nghagŵl yn casglu sticeri, hetiau papur ac wrth gwrs - llofnodion.
Mae'r wefr o dderbyn llofnodion Mici Plwm a Hywel Gwynfryn yr un prynhawn yn un wnaiff aros yn y cof a gewch chi gadw'ch 'hunlun' a'ch sticeri 'Match Attack', Llyfr Llofnodion y Lolfa fydd yn llonni fy nghalon am byth!
Cam 3: Oed yr addewid
Eisteddfod Cwm Rhymni 1990. Waw! Waw! WAW! Dyna'r geiriau i esbonio'r teimlad o fynd i fy Eisteddfod cyntaf - heb rieni.
Yr oll oedd yn fy meddiant oedd pabell, sach gysgu ac arian yn fy mhoced ac yna yn fy aros oedd: gigs, cwrw, y Gorlan a llond cae o fy nghyfoedion oedd yna i fwynhau diwylliant Cymru ar ei orau! Na, fues i ddim ar gyfyl y maes, ond hon oedd y Steddfod orau a fues iddi ERIOED!
'Na i ddim ymhelaethu rhag ofn i fy rhieni ddarllen hwn. Rheswm arall dros beidio adrodd yr hanes yw rhag ofn i fi darfu ar hwyl rhyw arddegyn sydd wedi llwyddo (fel nes i) i ddarbwyllo ei rieni i ariannu ei drip 'diwylliannol'.
Fy neges i'r rhai ifanc - byddwch yn ofalus a mwynhewch!
Cam 4: Fi a'r bwmp
Os mai 'Waw' oedd Eisteddfod Cwm Rhymni yna 'Bleugh' oedd Eisteddfod Tŷ Ddewi!
Doedd dim bai ar yr Eisteddfod ei hun. Ma'r bai yn llwyr ar y ffaith fy mod i yn fy noethineb anfeidrol wedi meddwl y byddai'n syniad da treulio wythnos yng ngŵyl mwyaf meddwol Cymru a finnau yn fy wythfed mis o feichiogrwydd.
Roedd fy fferau wedi chwyddo mwy nag ego ambell aelod o'r orsedd a'r unig ddŵr poeth yn 'ddŵr poeth' o'r math oedd angen ei drin â gafiscon.
Fe geisiais loches yn y Pafiliwn. Dyma fy ymweliad cyntaf â'r babell enfawr yr oeddwn i tan rwan wedi ei drin fel rhyw roundabout enfawr yn ganol y cae. Dwi ddim yn siŵr os mai'r ffaith i mi gael eistedd i lawr a chysgodi rhag y gwynt yntau gwir dalent Cymru oedd i'w ddiolch, ond fe ges i droedigaeth ac am y tro cyntaf nes i werthfawrogi yr arlwy ar y llwyfan.
Cam 5: Talu'r pwyth yn ôl
Ma' nhw'n dweud fod rhywun yn dysgu gwersi o'i orffennol - ond dwi ddim yn gwybod os 'di hyn yn wir am y Steddfod.
O gofio y cwyno yn 'Cam 1', nes i dreulio'r blynyddoedd nesaf yn llusgo fy mhlant fy hun o amgylch y Steddfod yn aros i siarad â phawb o'n i'n nabod er iddyn nhw drio fy llusgo o'm cyfathrach gyda'r gri: "Ty'd mam, mi fydd y Brodyr Gregory yn canu am Seimon ym munud!" (rheswm da i beidio symud os fuo un erioed) - a minnau'n gwrthod cyffro cam o'r lle.
Mi fydd atgofion cynnar fy mhlant felly, fel fy rhai innau, yn rhai o ddiflastod. Er, ma'n rhaid dweud bod fy mhlant yn gryfach o ran penderfyniad a chorff nag oeddwn i'n blentyn ac o'r herwydd os craffwch chi'n ddigon caled mi sylwch fod un o fy mreichiau yn hirach na'r llall.
Cam 6: A bydded goleuni!
Wedi blynyddoedd o orfod hebrwng y plant o babell i babell daeth yr amser pan oedd angen i fi eu gadael yn rhydd i grwydro'r maes. Beth oeddwn i am wneud gyda fy amser nawr?
Ocê, ges i flas ar y Pafiliwn flynyddoedd yn gynt ond 'gormod o bwdin dagith gi' ma' nhw'n ddeud ac yn fy nghyflwr ddi-feichiogol doedd treulio wyth awr yn y Pafiliwn ddim yn apelio'n ofnadwy.
Atebwyd fy nghri gan yr Eisteddfod ar ffurf y bariau ar y maes. Haleliwia! Felly roedd pawb yn hapus a gadawyd y cywion o'r nyth i'r gri: "Nai gwrdd â chi yn y bar gwyrdd am swper!"
Yn ddi-os, dyma'r cyfnod euraid o ran Eisteddfota.
Cam 7: Y rhod yn troi
A dyma fi eleni yn edrych 'mlaen at yr Eisteddfod. Yn meddwl am lety, welingtons, eli haul ac ail forgais pan ddaeth fy merch hynaf a gofyn: "Gai fynd i Maes B eleni?"
O gofio nôl i Gam 3 a'r atgofion sydd yn fy nghyflyru i ddefnyddio'r gair 'WAW' dwi wedi ffendio fy hun yn troi at fy epil gan ddweud: "Dwi ddim yn siŵr os ewn ni i'r Steddfod eleni... ' gan fy mod i ddim yn siwr os dwi'n barod i gau'r cylch yn llwyr.
Gawn ni weld!
Cyhoeddwyd y darn hwn yn wreiddiol ar BBC Cymru Fyw adeg Eisteddfod Genedlaethol 2015.