Beth yw'r Eisteddfod?
- Cyhoeddwyd
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau rhwng 1 ac 8 Awst 2015, ar dir Fferm Mathrafal ym Meifod.
Gŵyl gelfyddydol sy'n cael ei chynnal yn flynyddol yn y de a'r gogledd bob yn ail yw'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n ddigwyddiad allweddol yn y calendr Cymreig a gellir ei disgrifio fel gŵyl dalent genedlaethol mewn cystadlaethau amrywiol o ddawnsio i lefaru, canu i fandiau pres, a'r cyfan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Pryd mae'n digwydd?
Cynhelir yr Eisteddfod yn flynyddol, yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn.
Croeso i bawb
Mae'r Eisteddfod yn denu, ar gyfartaledd, dros 150,000 o ymwelwyr gydol yr wythnos ac mae croeso i bawb - o'r Eisteddfodwyr selog i'r rhai chwilfrydig sy'n ymweld am y tro cyntaf. Mae rheol uniaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac er bod yr holl gystadlu'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae croeso i'r rhai sydd ddim yn siarad yr iaith. Mae offer cyfieithu ar gael i'w casglu ger y Ganolfan Groeso wrth y brif fynedfa i'r Maes.
Beth i'w ddisgwyl
Y Pafiliwn mawr pinc yw canolbwynt yr ŵyl - yno mae'r cystadlu'n digwydd - o gerddoriaeth a barddoniaeth i lefaru a dawnsio. Daw'r cystadlu i ben gan amlaf tua 4.30pm fel bod y prif seremonïau yn gallu cael eu cynnal ar y llwyfan - y Coroni ar ddydd Llun, Gwobr Goffa Daniel Owen ar ddydd Mawrth, y Fedal Ryddiaith ar ddydd Mercher, a'r Cadeirio ar y dydd Gwener. Ar nos Fercher a nos Wener yr Eisteddfod mae'r cystadlu'n ail-gychwyn ar ôl y seremonïau ac yn parhau tan yr hwyr.
Hefyd yn rhan o'r ŵyl, cynhelir cyngherddau nosweithiol. O'r Gymanfa Ganu i'r Noson Lawen, mae manylion llawn i'w cael ar wefan swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol., dolen allanol
Pris mynediad
Mae Tocyn Diwrnod i'r Maes yn £20 i oedolion (£21 os am gadw sedd yn y Pafiliwn yn ogystal â mynediad i'r Maes), £18 i bensiynwyr, £12 i fyfyrwyr dan 21 oed (gyda cherdyn NUS) ac £8 i blant 5-15 oed (am ddim i blant dan 5 oed). Mae 'na ostyngiad ym mhris y tocynnau os ydych yn archebu cyn 1 Awst. Manylion llawn ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol.
O gwmpas y Maes a thu hwnt
Os nad yw'r cystadlu yn mynd â'ch bryd chi, gallwch dreulio diwrnod ar faes yr Eisteddfod heb fynd i mewn i'r Pafiliwn pinc, gan bod cymaint o bebyll eraill i ymweld â nhw. Theatr y Maes, y pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, y Lle Celf, y Babell Lên, Maes D (Pabell y Dysgwyr) yn ogystal â stondinau ac arddangosfeydd yn gwerthu dillad, gemwaith, llyfrau, CDs a nwyddau o bob math. Mae nifer o stondinau bwyd o gwmpas y maes, a bariau yn gwerthu alcohol hefyd.
Mae cyfleusterau ar gyfer teuluoedd gyda babanod a phlant bach ar gael ym mhabell Twf ar y Maes a thoiledau addas i bobl anabl.
Beth sy' mlaen?
Mae pethau'n digwydd ar y Maes ac o gwmpas yr ardal yn ystod yr wythnos, gan gynnwys dramâu, cyngherddau, barddoniaeth a chomedi, perfformiadau gan grwpiau lleol a nifer fawr o gigs amrywiol bob nos.
Tŷ Gwerin - Iwrt mawr sy'n gartref i bob math o weithgareddau sy'n adlewyrchu'r byd gwerin yng Nghymru
Pagoda - Rhagbrofion, cystadlaethau a pherfformiadau cerddorol
Caffi Maes B - Lleoliad agos atoch sy'n rhoi cyfle i weld bandiau a mwynhau sesiynau acwstig
Llwyfan y Maes - Cyfle i'r teulu cyfan weld pob math o artistiaid ar lwyfan agored sy'n agos at y pentref bwyd
Pentref Drama - Dyma gartref y Theatr a'r Cwt Drama lle mae pob math o berfformiadau theatrig yn cael eu cynnal
Maes D - Mae 'D' yn sefyll am 'Dysgwyr' - wedi ei leoli ar faes yr Eisteddfod, dyma babell i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r gweithgareddau yma yn amrywio o sgyrsiau difyr i chwarae gemau i gystadlaethau
Maes C - Wedi ei leoli ar y maes carafannau, nid nepell o Faes yr Eisteddfod. Mae'r adloniant nosweithiol a gynhelir yma wedi ei anelu at y teulu cyfan
Maes B - Gŵyl gerddoriaeth pop a roc a gynhelir ar y maes pebyll o 5-8 Awst eleni