Cwest milwyr y Bannau: Gwadu diffyg asesu

  • Cyhoeddwyd
MilwyrFfynhonnell y llun, MOD/PA
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw James Dunsby, Edward Maher a Craig Roberts ym mis Gorffennaf 2013

Mae milwr oedd yn gyfrifol am asesiadau risg yn ystod ymarferiad SAS ar Fannau Brycheiniog pan fu farw tri o filwyr wedi gwadu iddo adael i ddynion oedd yn dangos arwyddion o salwch gwres i barhau ar yr ymarferiad.

Dywedodd y milwr, sy'n cael ei alw yn '1B' mewn cwest i farwolaethau'r milwyr, ei fod yn "hapus" gyda'r asesiadau risg "cyffredinol" ar gyfer y milwyr wrth-gefn, oedd yn asesiad tebyg i rai ar gyfer milwyr llawn amser.

Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013, a bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Fe gafodd milwr 1B ei ddisgrifio yn gynharach yn y cwest gan gyn-filwr fel dyn oedd yn "hynod o fanwl".

Esboniodd 1B bod milwyr wedi gorfod cwblhau ymarferiadau cychwynol cyn gallu mynd ar yr ymarferiad hwnnw ym mis Gorffennaf 2013.

Canllawiau

Dywedodd nad oedd yn ymwybodol o ganllawiau asesu risg y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy'n cynnig arweinyddiaeth ar fesurau rheoli mewn cysylltiad ac anhwylder o achos gwres.

Roedd o'r farn bod gofyn i filwr am leoliadau penodol ar fap yn ffordd briodol o weld os oedd y milwyr yn dioddef o ddryswch - sy'n arwydd o salwch gwres.

Dywedodd y crwner Louise Hunt wrtho fod milwr arall, '2P', wedi dangos arwyddion o salwch gwres iddo ar y diwrnod hwnnw, ond roedd wedi cael parhau ar yr ymarferiad.

"Dim o gwbl", meddai 1B.

"I roi'r peth yn ei gyd-destun, petai person wedi dangos yr arwyddion a symptomau hynny, fyddwn i ddim wedi caniatáu iddyn nhw barhau.

"Fe fyddai wedi gorfod dangos y man stopio nesaf i mi ar y map gyda chornel ei gwmpawd... ac yna llenwi ei boteli dŵr. Ni wnaeth ddangos y symptomau hyn i mi."

'Asesiad cyflawn'

Dywedodd y crwner mewn ymateb: "Ond i fod yn deg, dydych chi ddim yn ei gofio felly sut allwch chi fod yn sicr? Rwyf yn awgrymu i chi nad oeddech chi wedi gwneud yr asesiadau'n ddigon cyflawn?"

"Rwy'n derbyn yr hyn yr ydych yn ei ddweud, ond dwi'n anghytuno. Fe fyddwn wedi gwneud yr asesiad yn ddigon cyflawn."

Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd milwr 1B hefyd bod y ffaith bod y milwyr mor benderfynol o orffen y cwrs yn "ffactor allweddol" yn y marwolaethau.

"Dwi'n meddwl mai un o'r prif ffactorau fyddai penderfynoldeb James, Edward a Craig i gwblhau'r ymarferiad," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn bosib nad oedd yr hyfforddiant cyn yr ymarferiad yn ddigon da.

Mae'r cwest yn parhau.