Y Gelyn Gwyn? Pryder am niferoedd gwylanod
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwarchod rhai mathau o wylanod oherwydd eu bod nhw'n prinhau, yn ôl cymdeithas adar yr RSPB ar raglen materion cyfoes Manylu ar Radio Cymru.
Ond er bod rhai am amddiffyn yr aderyn, i eraill, mae'n felltith wrth iddyn nhw ymosod yn giaidd ar bobl a chreu llanast mewn trefi glan môr ar draws Cymru.
Mae Margaret Parry yn gwybod yn well na neb pa mor fileinig y gall gwylanod fod - yn enwedig ym mis Mehefin pan maen nhw'n magu cywion.
Fe gafodd hi brofiad annymunol iawn ger ei chartref ym Moelfre ar Ynys Môn ble roedd gwylan yn edrych ar ôl eu cywion.
"Roedd y fam yn gwarchod y babi ac mi ddoth ar fy ôl i," meddai.
"Mi darodd fi yn fy mhen ac mi agorodd fodfedd neu ddwy yn fy mhen hyd at y gwaed. Mi fuodd rhaid i mi fynd i'r ysbyty a gliwio'r pen a chael pigiad tetanws."
Mae gwylanod yn gallu bod yn bla mewn trefi hefyd - yn dwyn bwyd o ddwylo pobl.
Yn Ninbych y Pysgod mae'r cyngor tref wedi buddsoddi mewn cant o fagiau du arbennig sy'n llawer cryfach na'r rhai arferol. Maen nhw wedi eu rhannu rhwng cant o fusnesau a thrigolion sydd ynghanol y dre ac wedi helpu osgoi llanast ar ddiwrnod casglu sbwriel.
'Problem'
Dywedodd Julie Jones, sy'n berchen ar fusnes yn y dref: "Mae 'na ddwy dafarn yn dre â gerddi tu fas, ac os nad yw'r staff yn ddigon cyflym yn clirio'r byrddau mae'r gwylanod yn dod yn eu degau ac yn creu llanast ac yn torri gwydrau - mae hi yn broblem."
Ond dull gwahanol iawn o reoli gwylanod sydd gan rhai o gwmnïau ardal Caernarfon. Ar stad ddiwydiannol Cibyn mae Geraint Williams yn defnyddio hebog tramor i ddychryn gwylanod rhag nythu ar doeau'r adeiladau a chreu llanast.
"Y peth hefo gwylanod ydi 'psychological warfare'," meddai.
"Da chi'n gorfod bod un step ar y blaen o hyd. Dwi ddim yma i'w lladd nhw - yma i'w cadw nhw i ffwrdd ydw i. Os ydi hwn yn eu dychryn nhw, a'u cadw nhw i ffwrdd mae o wedi gwneud ei waith."
Ond mae cymdeithas adar yr RSPB a grwpiau cadwriaethol eraill yn poeni bod gostyngiad mawr mewn rhai mathau o wylanod ac yn bendant fod angen eu gwarchod.
Dywedodd Bethan Lloyd, llefarydd a ran y gymdeithas: "Be sy'n drist ydi bod poblogaeth gwylanod penwaig wedi haneru dros y 40 mlynedd ddiwethaf.
"Er ein bod ni yn eu gweld nhw'n ddiddiwedd a'u bod nhw'n boen i ni, maen nhw wirioneddol yn prysur ddiflannu o'u cynefinoedd naturiol sydd o bryder cadwriaethol enfawr."
Bydd rhaglen Manylu yn cael ei darlledu am 12:30 ar ddydd Iau, 18 Mehefin ar Radio Cymru.