Cwest milwyr SAS: Canllawiau yn 'rhwystro' ymarferion

  • Cyhoeddwyd
MilwyrFfynhonnell y llun, MOD/PA
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw James Dunsby, Edward Maher a Craig Roberts ym mis Gorffennaf 2013

Mae cwest wedi clywed y byddai ymarferiad yr SAS pan fu farw tri milwr wedi ei rwystro yn sylweddol petai canllawiau diogelwch y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi eu dilyn.

Roedd milwr, gafodd ei alw yn 9F, yn rhan o'r ymarferiad ar yr un diwrnod gafodd tri dyn eu taro yn wael.

Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn ar yr ymarferiad ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013.

Bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

'Demograffeg eang iawn'

Yn y cwest, roedd 9F yn siarad am ddogfen swyddogol sy'n rhoi canllawiau'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar salwch oherwydd y gwres. Mae'n awgrymu y dylai ymarferiad gael ei hatal os yw milwyr yn cael eu taro'n wael oherwydd y gwres.

Ond dywedodd bod y canllawiau yma ar gyfer nifer o adrannau gwahanol o'r lluoedd arfog.

"Mae'n ymdrin â demograffeg eang iawn, milwyr ifanc, merched...a hefyd rheiny sydd ddim yn gyfarwydd a gweithio yn y math yma o amgylchiadau," meddai.

Ychwanegodd: "Wnes i ddim defnyddio [y canllawiau] oherwydd ei fod yn dweud bod rhaid stopio ymarfer os ydych chi'n cyrraedd lefel o straen oherwydd y gwres, ac i'r math o ymarfer roedden ni'n ei wneud, doedd stopio'r ymarferiad ddim yn opsiwn."

Rhwystr

Dywedodd y milwr bod yr SAS yn gorfod bod yn barod i weithio mewn unrhyw amgylchiadau o fewn 24 awr.

Ychwanegodd: "Ni fuaswn i'n gallu gwneud yr hyn sydd ei angen petawn ni'n cadw at y canllawiau yma."

"Rydyn ni'n ymwybodol o'r pamffled [canllawiau] dwi'n deall...ond byddai'n rhoi rhwystr sylweddol ar y math o hyfforddiant yr ydyn ni'n ceisio ei gyflawni."

Dywedodd hefyd bod "hunanreolaeth" yn bwysig i'r rhai oedd yn cymryd rhan yn yr ymarferiad.

Gofynnodd David Turner QC ar ran gwraig Corporal Dunsby, Bryher Dunsby, os oedd y Weinyddiaeth Amddiffyn am i filwyr "wthio heibio ffiniau yr oedden nhw wedi eu cyrraedd o'r blaen".

"Oedd" atebodd y milwr, ond dywedodd hefyd eu bod yn chwilio am "aeddfedrwydd" i stopio gwneud rhywbeth neu i wneud rhywbeth yn wahanol.

Mae'r cwest yn parhau.