Geraint Thomas yn ail yn y Tour de Suisse

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas, Simon Spilak a Tom DumoulinFfynhonnell y llun, EPA

Gorffennodd Geraint Thomas yn ail yn y Tour de Suisse ar ôl gorfod bodloni ar y pumed safle yn y cymal olaf ddydd Sul.

Y Cymro oedd y ffefryn dros nos i gipio'r wobr gyntaf ond Simon Spilak o Slofenia aeth a hi wrth orffen 18 eiliad o flaen Thomas yn y cymal olaf yn erbyn y cloc.

Rhoddodd hynny fantais o bum eiliad i Spilak dros Thomas ar ôl y naw niwrnod o rasio.

"Mor agos ac eto mor bell, ond dyna ydi rasio beics," dywedodd Thomas ar ei gyfrif Twitter. "Diolch am y gefnogaeth yr wythnos yma."

Tom Dumoulin enillodd y cymal olaf, 18 eiliad o flaen Spilak.

Ras nesaf Thomas gyda Team Sky fydd y Tour de France, sy'n cychwyn ar 4 Orffennaf. Bydd disgwyl i Thomas gefnogi ymgais Chris Froome i ennill y ras am yr ail dro.