Cwest: 'Milwyr heb symud am gyfnod sylweddol'

  • Cyhoeddwyd
SAS selection deathsFfynhonnell y llun, PA/MOD
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw James Dunsby, Edward Maher a Craig Roberts ym mis Gorffennaf 2013

Mae cwest i farwolaeth tri milwr wedi clywed nad oedd milwr wedi sylweddoli am fwy na dwy awr fod milwyr mewn trafferth a ddim yn symud.

Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013 a bu farw dau filwr arall ar yr un ymarferiad - yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby - yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Ddydd Mawrth fe ddywedodd Milwr 1C, oedd yn gyfrifol am gadw golwg ar ddyfeisiadau monitro'r dynion, ei fod yn rhy brysur i sylweddoli fod dau o'r milwyr wedi stopio symud am gyfnod sylweddol.

Yn ôl Milwr 1C, hwn oedd ei ymarferiad cyntaf gyda'r uned ond ei fod wedi defnyddio'r offer monitro o'r blaen.

Yn y cwest yn Solihull, Canolbarth lloegr, dywedodd fod pob milwr yn cario dyfais oedd yn anfon signal i loeren bob 10 munud a hyn yn caniatáu i symudiadau milwr gael eu monitro ar liniadur.

Dywedodd Milwr IC nad oedd yn gwybod a wnaeth larwm seinio er mwyn dangos bod milwyr yn symud yn rhy araf.

Gwadodd fod cofnodion wedi eu newid er mwyn awgrymu bod hyfforddwyr wedi sylwi ar broblemau'n gynt.

Methu canolbwyntio

Clywodd y cwest fod y milwyr wedi cwympo i'r llawr yn dioddef o orboethder ar ddiwrnod mwya twym y flwyddyn tra'n cario tua 50 pwys.

Roedd map yn dangos fod yr Is-gorporal Maher wedi stopio symud tua 14:16pm ond clywodd y cwest nad oedd Milwr 1C wedi sylwi ar hyn tan 16:40.

"Doeddwn i ddim yn gallu canolbwyntio ar un myfyriwr penodol oherwydd roedd yna fyfyrwyr eraill oedd wedi blino, mae'n rhaid cadw llygaid ar y rhain hefyd."

Cyfeiriodd y crwner at y ffaith fod y Corporal Dunsby wedi stopio symud am 15:17 ond bod cofnodion yn dangos na chafodd hyn ei sylwi tan 16:40.

Yn ôl Milwr 1C, roedd y Corporal Dunsby wedi teithio "pellter sylweddol i lawr y mynydd" ond doedd staff y pwynt chwilio heb gofnodi unrhyw bryderon.

Unwaith eto dywedodd Milwr 1C ei fod yn monitro pobl eraill. "Alla i ddim monitro un unigolyn neu fe fyddai hyn yn risg i bawb," meddai.

Mae'r cwest yn parhau.