Cwest milwyr: 'Milwyr wedi dweud celwydd'

  • Cyhoeddwyd
Marwolaethau SASFfynhonnell y llun, PA/MOD
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw James Dunsby, Edward Maher a Craig Roberts ym mis Gorffennaf 2013

Mae tad milwr wrth gefn fu farw ar ôl ymarferiad gyda'r SAS wedi cyhuddo milwyr eraill o ddweud celwydd wrtho ynglŷn â ble'n union y cafwyd hyd i'w fab.

Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013, a bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Yn y cwest yn Solihull, Canolbarth Lloegr, mynnodd David Dunsby wybod pam y cafodd wybodaeth gamarweiniol am ei fab.

Roedd y tad wedi gofyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn a allai fynd i'r man ble aeth ei fab yn anymwybododol.

Amau

Wythnos wedi'r ymarferiad, pan oedd ei fab yn ddifrifol iawn yn yr ysbyty, cafodd Mr Dunsby, 58 oed, ei hebrwng i'r mynydd ble oedd yr ymarferiad.

Ond roedd yn amau iddo gael ei hebrwng i fan hyd at 875 o droedfeddi o ble y cafwyd hyd i'w fab.

"Dwi'n poeni bod rhywun wedi rhoi camwybodaeth i fi," meddai mewn datganiad.

"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod fy mab ar ei ben ei hun ac o bosib yn diodde am 90 o funudau.

"Ac mae'r 90 o funudau'n dangos bod y Fyddin wedi methu ag amddiffyn ac achub fy mab.

'Celwydd'

"Fel rhiant mae angen i fi wybod pam dywedodd milwyr gelwydd ... a pham bod angen cuddio'r hyn ddigwyddodd."

Dywedodd hyfforddwr, gafodd ei adnabod fel 1G, iddo wylio'r ymarferiad ar ran ei uwchswyddogion.

Nid oedd yn adnabod y tri milwr, meddai, ond roedd y grŵp oedd yn cael eu hyfforddi'r diwrnod hwnnw yn un cryf.

"Roedd y 37 wedi cyrraedd y safon ofynnol a phob un yn holliach," meddai.