Tractor, cwrwgl a weiren zip

  • Cyhoeddwyd
Rhys ac ElenFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Meirion wedi ei ysgogi i godi arian at achosion da yn dilyn marwolaeth sydyn ei chwaer Elen yn 2012

Car, bws tram, beic a hyd yn oed mulod ond o leia bydd 'na lai o bothelli ar draed Rhys Meirion wrth iddo ddechrau ei sialens ddiweddara' ar 4 Gorffennaf. Bu'n esbonio wrth Cymru Fyw beth yw amcanion Her Cylchdaith Cymru.

Rhoi organau

Dair blynedd yn ôl, newidiodd fy mywyd yn ddramatig pan fu farw fy chwaer Elen, athrawes hoffus a cherddor dawnus a ddaeth â llawenydd i fywydau cymaint o bobl.

Mae fy nheulu a minnau yn cael cysur mawr o wybod bod dymuniadau Elen wedi eu gweithredu. Gyda'i marwolaeth, bu'n bosib i Elen ddod â hapusrwydd i deuluoedd eraill pan gafodd ei horganau eu defnyddio i drawsnewid bywydau pum person.

Roeddem ni'n gwybod bod Elen eisiau rhoi ei horganau gan iddi siarad am y peth efo'i merch Gwenllian.

Mae'n anodd credu, ond yn ôl Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, dim ond 45% o deuluoedd sy'n cytuno i roi organau os nad ydyn nhw'n ymwybodol o ddymuniad eu hanwylyd i fod yn rhoddwr, ond mae'r ffigwr yma yn codi i 95% pan fônt yn ymwybodol o'r penderfyniad. Mae cynnal y sgwrs honno mor bwysig.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfraith newydd ynglŷn â rhoi organau yn dod i rym yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2015

Deddf newydd

Ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf, mi fydda i ac un ar ddeg o wynebau cyfarwydd yn dechrau ar Her Cylchdaith Cymru o Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. Y nod yw codi ymwybyddiaeth am y ddeddf eithrio rhag rhoi organau a fydd yn dod i rym yng Nghymru fis Rhagfyr eleni.

Efallai eich bod yn ymwybodol, dan y ddeddf newydd, os na fydd rhywun wedi nodi nad yw'n dymuno bod yn rhoddwr, bydd yn cael ei ystyried fel rhywun sydd ddim yn gwrthwynebu rhoi.

Mi fydd yr angen i siarad yn parhau i fod yn hanfodol bwysig gan fod gan deuluoedd rôl ganolog yn y broses.

Mae fy nheulu a minnau wedi sefydlu Cronfa Elen, i gefnogi a hyrwyddo rhoi organau yng Nghymru.

Nod y Gronfa yw cefnogi pobl sydd angen trawsblaniad a theuluoedd y rhai sydd wedi rhoi eu horganau yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

"Tacsi i Rhys Meirion!"

Dulliau anarferol o deithio

Bydd yr arian fydd yn cael ei godi drwy Gronfa Elen yn prynu offer, adnoddau newydd, addysg a hyfforddiant a phrosiectau arbennig yng Nghymru.

Bydd degau ar ddegau o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru wrth i ni deithio o amgylch y wlad er mwyn cyflawni Her Cylchdaith Cymru rhwng 4 ac 11 o Orffennaf.

Byddwn yn teithio trwy amrywiol ddulliau, o dractorau i weiren zip, o geffyl a chert i gyryglau. Mae'r rhestr yn un faith, ac mae'r holl fanylion ar wefan www.cylchdaith.cymru , dolen allanol

Yn ogystal â'r cyngerdd agoriadol ym Mhafiliwn y Rhyl, bydd cyngherddau'n cael eu cynnal ar hyd y gylchdaith. Mae drama hefyd wedi ei chomisiynu.

Bydd Theatr na Nog yn perfformio'r ddrama emosiynol 'Symud Mlaen' gyda Siw Hughes a Dafydd Rhys Evans mewn amrywiol leoliadau ar hyd y gylchdaith.

Bydd arddangosfa symudol addysgiadol hefyd yn teithio gyda ni. Amcan yr Arddangosfa yw hyrwyddo'r angen i siarad am roi organau.

Rydym hefyd yn anelu at ddarparu gwybodaeth ac ateb cwestiynau sylfaenol ar y ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru a chyfeirio'r rhai sy'n gofyn am wybodaeth bellach.

Gyda Chronfa Elen, hoffem wneud yn siŵr bod y rhai sy'n rhoi rhodd bywyd, fel y gwnaeth Elen, yn cael eu cofio am yr hud a ddaethant i fywydau pobl eraill yn ystod eu bywydau eu hunain ac wrth roi organau, yn hytrach na'r ffordd drasig y gallasant fod wedi colli eu bywydau.

Mae fy nghais i chi yn syml. Cymerwch ran yn Her Cylchdaith Cymru os gwelwch yn dda, oherwydd rwy'n gwybod y gallwn efo'n gilydd wneud gwahaniaeth go iawn i'r miloedd o deuluoedd sy'n aros am organau ar hyn o bryd.