Caerdydd i gynnal ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn 2017

  • Cyhoeddwyd
Cardiff's Millennium StadiumFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Stadiwm y Mileniwm le i 74,500 o gefnogwyr

Mae Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd wedi ennill yr hawl i gynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Uefa ar 3 Mehefin yn 2017.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei hystyried fel y brif un i glybiau pêl-droed Ewrop, ac mae'r rownd derfynol yn denu bron i 200 miliwn o wylwyr teledu ar draws y byd.

Yn ogystal, mi fydd rownd derfynol cystadleuaeth y merched yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddeuddydd ynghynt ar 1 Mehefin.

Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC) oedd yn gyfrifol am y cais i lwyfannu'r gemau, ond mae perchnogion y stadiwm, Undeb Rygbi Cymru, hefyd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau gyda Uefa - y corff sy'n rheoli pêl-droed Ewrop.

'Llygaid y byd'

"Mae CBC yn ddiolchgar i Uefa am roi'r cyfle i ni a Chymru i lwyfannu un o ddigwyddiadau chwaraeon mwya'r byd," dywedodd llywydd CBC Trefor Lloyd Hughes.

"Mae pêl-droed yng Nghymru yn sicr yn ffynnu ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Uefa ac ein rhan-ddeiliaid i lwyfannu dwy rownd derfynol gofiadwy."

Mae'r stadiwm, sy'n gartref i'r tîm rygbi cenedlaethol, eisoes yn wedi cynnal gemau rhyngwladol pêl-droed Cymru, gemau pêl-droed Gemau Olympaidd 2012, yn ogystal â rowndiau terfynol Cwpan yr FA yn ystod y cyfnod pan roedd Wembley yn cael adnewyddu.

Wedi'r cyhoeddiad ddydd Mawrth, dywedodd chwaraewyr Cymru Gareth Bale ac Aaron Ramsey y byddai'n "wych" gallu chwarae yn y gêm ymhen dwy flynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 180 miliwn yn gwylio'r rownd derfynol rhwng Barcelona a Juventus eleni

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones groesawu'r newydd, gan ddweud: "Bydd llygaid y byd unwaith eto ar Gymru a hoffwn ddiolch i UEFA am ymddiried ynom i ddarparu profiad pêl-droed Ewropeaidd mor anhygoel.

"Rydyn ni wedi profi'n bod ni'n gallu gwneud pethau fel hyn trwy gynnal Super Cup UEFA yn Stadiwm Dinas Caerdydd y llynedd a nawr gallwn edrych 'mlaen at ymweliad cefnogwyr o ar draws Ewrop, fydd yn dod yma i flasu'r croeso Cymreig. Rydyn ni'n addo gwneud cyfiawnder â'r digwyddiad chwaraeon arbennig hwn.

"Gyda dau brawf y Lludw, Cwpan Ryder a gemau Cwpan Rygbi'r Byd nawr, mae enw da Cymru fel rhywle i gynnal digwyddiadau chwaraeon yn ddiamau."

'Y gorau yn Ewrop'

Ategodd y Prif Weinigod David Cameron: "Nid yn unig ydi Stadiwm y Mileniwm un o'r stadia gorau yn y wlad, ond mae hi ymysg y gorau drwy Ewrop.

"Mae'n newyddion gwych bod Uefa wedi cydnabod hynny ac y bydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2017 yng Nghaerdydd.

Mae llwyfannu rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr neu Chynghrair Europa yng Nghaerdydd wedi bod yn uchelgais i brif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, ers iddo gymryd yr awenau yn 2009.

Bydd cael gwneud hynny yn 2017 yn lleddfu ychydig ar y siom ar ôl i Gaerdydd fethu â bod ymysg y 13 dinas fydd yn cynnal gemau ym Mhencampwriaeth Euro 2020.

Dyma fydd yr ail dro i rownd derfynol un o brif gystadlaethau Uefa ddod i'r brifddinas ar ôl i Stadiwm Dinas Caerdydd lwyfannu'r Super Cup rhwng Real Madrid a Seville yn 2014.

Yn ôl y Swyddfa Gymreig, pan chwaraewyd y gêm yn Wembley rhwng Bayern Munich a Borussia Dortmund yn 2013, daeth rhyw 100,000 o gefnogwyr o'r Almaen i Lundain heb docyn, gan gyfrannu £44m i'r economi.