Naturiaethwr yn galw am amddiffyn adar ysglyfaethus

  • Cyhoeddwyd
Hebog tramorFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r adar sy'n cael ei dargedu ydi'r hebog tramor

Mae'r cyflwynydd teledu a'r naturiaethwr Iolo Williams wedi galw am gosbau llymach ar gyfer pobl sy'n lladd adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon.

Mae Mr Williams yn dweud nad ydi'r llysoedd yn cymryd achosion yn erbyn troseddau bywyd gwyllt digon o ddifrif.

"Does 'na ddim byd mwy torcalonnus na phan 'da chi'n cael achos - 'da chi'n dal rhywun wrthi a 'da chi'n dod a'r achos i'r llys - ond yn y pen draw mae'r llys yn rhoi cosb o £150-£200," meddai wrth raglen Manylu BBC Radio Cymru.

"Mae'n bwysig iawn bod y llysoedd yn cymryd y materion yma o ddifrif."

Targedu

Ychwanegodd: "Mae 'na gyfrifoldeb arnyn nhw i wneud hynny - dim ond pan maen nhw'n gwneud hynny y bydd yr agweddau at rai o'r adar yma yn newid."

Un o'r adar sy'n cael ei dargedu ydi'r hebog tramor - un o adar ysglyfaethus cynhenid gwledydd Prydain.

Er bod cynnydd yn nifer y parau sy'n magu yng Nghymru, mae cadwraethwyr yn poeni bod rhai ohonyn nhw - ac adar ysglyfaethus eraill - yn cael eu gwenwyno yn fwriadol.

Un sy'n ymchwilio i ymosodiadau ar fywyd gwyllt ydi Dewi Evans o uned troseddau cefn gwlad Heddlu'r Gogledd.

Mae o'n cydnabod nad tasg hawdd ydi dal y rhai sy'n gyfrifol.

"Maen nhw'n anodd iawn i'w plismona a dyna pam 'da ni'n trio meddwl am ffyrdd newydd o ymchwilio i'r digwyddiadau a'u hatal nhw rhag digwydd yn y lle cynta'," meddai.

"Does gennym ni ddim tystiolaeth bendant pwy sydd wrthi.

"Tasa gennym ni dystiolaeth bendant mi fasa 'na bobl wedi cael eu cyhuddo.

"Ond mae gennym ni ein hamheuon ac mae 'na sail i rai o'r amheuon yma ac rydyn ni'n yn cadw llygad ar rai unigolion."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iolo Williams yn galw am gosbau mwy llym i droseddwyr yn erbyn adar

Dirwy a charchar

Mae'n bosib cael dirwy o hyd £5,000 neu hyd at chwe mis mewn carchar am ymosod ar adar neu anifeiliaid.

Ond hyd yn oed pan mae achos yn erbyn troseddwr yn cael ei brofi, anaml y mae'r ddedfryd uchaf yn cael ei rhoi.

Mae Comisiwn y Gyfraith wedi bod yn paratoi argymhellion ar gyfer diwygio'r cyfreithiau sy'n ymwneud a bywyd gwyllt.

Roedd eu hadroddiad i fod i gael ei gyhoeddi flwyddyn yn ôl - ond dyw o ddim wedi gweld golau dydd hyd yma.

Nawr, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru - y cyn-farnwr Winston Roddick - wedi dweud wrth Manylu ei fod am weld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosib.

"Fy mwriad i nawr yw sgwennu at Gomisiwn y Gyfraith i'w hannog nhw i roi pwysau ar y llywodraeth i ddod 'mlaen gyda'r mesur newydd," meddai.

"Mi hoffwn i weld y cynllun yn cynnwys rhoi mwy o hawl i'r llys ynadon allu anfon achos i Lys y Goron oherwydd bod grym llys y goron i ddedfrydu yn fwy na llysoedd ynadon. Felly, 'da chi yn siwr o gael cosb sydd yn ffitio'r drosedd.

"Hefyd mi hoffwn i weld mwy o bwerau yn cael eu rhoi i lysoedd ynadon i roi cosbau llymach nag y maen nhw yn gallu eu gwneud ar hyn o bryd."

Manylu, Radio Cymru, Dydd Iau, 2 Gorffennaf am 12:30.