Carcharu gyrrwr wedi marwolaeth merch 19 oed
- Cyhoeddwyd

Xana Doyle
Mae dyn wnaeth achosi marwolaeth merch ifanc tra'n gyrru dan ddylanwad cocên ac alcohol wedi ei garcharu am wyth mlynedd.
Fe wnaeth Sakhawat Ali o Gasnewydd bledio'n euog i achosi marwolaeth Xana Doyle drwy yrru'n beryglus.
Yn Llys y Goron Caerdydd fe wnaeth Ali bledio'n euog i yfed a gyrru a chymryd car heb ganiatâd.
Cafodd ei gefnder Shabaz Ali, 21, ei garcharu am saith mlynedd a thri mis am roi caniatâd i gael ei gludo mewn car oedd wedi ei ddwyn, a hynny yn dilyn y ddamwain.
Cafodd Sakhawat Ali ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd a Shabaz Ali am bum mlynedd.
Cymryd allweddi
Roedd Miss Doyle yn teithio yn y car pan ddigwyddodd y ddamwain.
Clywodd y llys fod Shabaz Ali wedi cymryd allweddi car ei fam heb ei chaniatâd a bod Sakhawat Ali wedi gyrru'r car.
Roedd y gyrrwr wedi yfed ddwywaith y lefel gyfreithiol o alcohol ac wedi cymryd cocên.
Clwydodd y llys fod merch arall yn y car a bod y ddwy wedi gofyn i Sakhawat Ali i arafu, ond bod y car wedi codi i'r awyr ar gyflymdra o 60 myr a throi ben i waered.
Dywedodd y barnwr Neil Bidder said: "Roedd Xana ond yn 19 a'i holl fywyd o'i blaen. Does dim modd mesur yr effaith ar ei theulu."

Sakhawat Ali a Shabaz Ali

Digwyddodd y ddamwain ar Usk Way yng Nghasnewydd mis Ionawr