Cymru yn 10 uchaf detholion Fifa am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn dathlu yn erbyn Gwald BelgFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru ar rediad gwych o ganlyniadau diweddar

Mae Cymru wedi codi i'r 10 uchaf ar restr detholion Fifa am y tro cyntaf.

Maen nhw bellach yn uwch na Sbaen (12fed), Yr Eidal (17eg) a Chile (11eg), a dim ond un safle tu ôl i Loegr ar ôl codi 12 safle ers rhestr fis diwethaf.

Rhediad diguro diweddar o chwe gêm, yn cynnwys buddugoliaethau yn erbyn Gwald Belg ac Israel yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 yn y ddwy gêm ddiwethaf, sydd wedi cyfrannu at ddyrchafiad Cymru.

Dim ond pedair blynedd sydd ers i Gymru ddisgyn i'w safle isaf erioed o 117 ar y rhestr.

10 uchaf rhestr detholtion Fifa:

1. Yr Ariannin

2. Yr Almaen

3. Gwald Belg

4. Colombia

5. Yr Iseldiroedd

6. Brasil

7. Portiwgal

8. România

9. Lloegr

10. Cymru

"Mae o wastad yn well gweld ni yn y safle 'da ni ynddo fo rŵan na lle oedden ni bum mlynedd yn ôl," meddai Osian Roberts, aelod o dîm hyfforddi Cymru.

"Mae 'na lot o waith caled wedi cymryd lle ac mae'r grŵp o chwaraewyr wedi aeddfedu. Dyna'r peth mwyaf, dwi'n meddwl - y profiad maen nhw wedi cael yn ystod y blynyddoedd diwetha' 'ma.

"A gobeithio, wrth gwrs, fedrwn ni adeiladu ar hynny."

Cwpan y Byd

Mi fydd Uefa yn defnyddio safleoedd timau Ewrop ar restr Fifa fel sail i benderfynu'r detholion ar gyfer y grwpiau yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

O ganlyniad, mi fydd Cymru ymysg y prif ddetholion pan fydd trefn y grwpiau'n cael eu penderfynu ar 25 Gorffennaf. Mi fydd saith grŵp o chwe thîm, a dau grŵp o bump.

Fe roedden nhw ymysg y detholion isaf ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Yr Ariannin sy'n codi i'r brig ar restr ddiweddaraf Fifa er iddyn nhw golli yn erbyn Chile yn rownd derfynol Copa America ddydd Sadwrn.

Mae Gwlad Belg yn disgyn i'r trydydd safle. Mae'r Alban yn 29ain a Gogledd Iwerddon yn codi saith lle i 37ain.