Yr Eisteddfod ar deledu, radio ac ar-lein
- Cyhoeddwyd
Os methwch chi â bod ym Meifod does dim rhaid colli dim o'r hwyl, y cystadlu, y cyngherddau nac awyrgylch y prif faes - oherwydd bydd yna ddarpariaeth estynedig o holl ddigwyddiadau'r Eisteddfod - ar deledu, radio ac ar-lein drwy gydol yr ŵyl.
BBC Cymru Fyw
Yma ar wefan BBC Cymru Fyw, bydd modd gwylio fideo byw o'r pafiliwn drwy'r dydd, a gweld canlyniadau ac uchafbwyntiau'r cystadlu. Yn ogystal, bydd y newyddion diweddaraf o'r maes ac orielau o luniau dyddiol ar gael.
Llif byw o'r Pafiliwn, uchafbwyntiau'r cystadlu a'r canlyniadau'n llawn ar BBC Cymru Fyw
Ar S4C
Bydd gan wylwyr sêt flaen yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015 - a hynny heb symud o'r soffa. Nia Roberts, Dewi Llwyd a Heledd Cynwal fydd yn llywio'r rhaglenni dyddiol ar S4C trwy sgwrsio gyda'r cystadleuwyr a chyflwyno holl ddigwyddiadau ac atyniadau eraill y maes, gyda Tudur Owen yn crynhoi uchafbwyntiau'r wythnos ar y nos Sul olaf.
Gyda'r hwyr, fe fydd Iwan Griffiths yn rhoi blas o holl ddigwyddiadau'r dydd yn 'Mwy o'r Maes', ac ar y nos Fercher a'r nos Wener, Iwan fydd yn ein tywys drwy'r cystadlu hwyr o lwyfan y Pafiliwn.
·'Rhaglen y Dydd': 10am
·'Mwy o'r Maes': Sadwrn - 8pm; Sul - 6.40pm; Llun, Mawrth a Iau - 8pm
·'Oedfa'r Eisteddfod': Sul - 10am
·'Y Gymanfa Ganu': Sul - 8pm
Gwyliwch yr Eisteddfod yn fyw ac ar alw drwy'r wythnos ar wefan S4C, dolen allanol
Radio Cymru
Ar BBC Radio Cymru, lleisiau cyfarwydd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis fydd yng ngofal y darllediadau, gydag Ifan Evans yn crwydro'r maes a Nia Lloyd Jones yn dod â'r holl fwrlwm o gefn y prif lwyfan. Bydd 'Post Cyntaf' a 'Rhaglen Dylan Jones' yn fyw o'r maes carafanau yn ddyddiol yn ogystal â thrafodaeth o bynciau llosg y dydd ar 'Taro'r Post' am 1pm gyda Garry Owen.
Bydd uchafbwyntiau'r Babell Lên am 1.30pm, 'Post Prynhawn' yn dilyn y darlledu o'r maes am 5.30pm, a bydd 'Tocyn Wythnos' yno gyda Beti George yn rhoi blas o'r brifwyl gyfan bob nos. Am 8pm bydd Llais y Maes gyda Richard Rees, Lisa Gwilym a Guto Rhun yn ein tywys trwy arlwy cerddorol yr Eisteddfod o'r llwyfan perfformio i'r Tŷ Gwerin ac i Maes B.
Amserlen lawn a gwybodaeth am raglenni Radio Cymru o Eisteddfod 2015
Radio Wales
Bydd yr Eisteddfod hefyd yn cael sylw yn ystod rhaglenni BBC Radio Wales gyda Jason Phelps yn dod â blas dyddiol o'r maes, a bydd rhaglen Eleri Siôn yn darlledu o'r maes ddydd Iau.
Ewch i wefan Radio Wales am fwy o wybodaeth
Newyddion
Hefyd fe fydd rhaglenni newyddion BBC Cymru, gan gynnwys 'Wales Today', a 'Newyddion 9' ar S4C, yn adrodd yn helaeth am y straeon eisteddfodol diweddaraf bob dydd.