Cwest Milwyr y Bannau: Disgwyl dyfarniad
- Cyhoeddwyd

Bu farw James Dunsby, Edward Maher a Craig Roberts ym mis Gorffennaf 2013
Mae disgwyl dyfarniad ddydd Mawrth gan y crwner yn y cwest i farwolaethau tri milwr yn ystod ymarferiad SAS ar Fannau Brycheiniog.
Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts, o Fae Penrhyn, yn ystod yr ymarferiad ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013.
Bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Roedd y tri milwr rhan-amser yn rhan o gwrs hyfforddi 16 milltir gyda'r SAS ar y pryd.
Y crwner Lousie Hunt sydd wedi bod yn eistedd yn y cwest yn Solihull yng nghanolbarth Lloegr.
Sefydlu amgylchiadau
Yn ystod y gwrandawiad, gafodd ei gynnal dros bedair wythnos ym mis Mehefin, clywodd y cwest y byddai'r dynion wedi goroesi petai nhw wedi cael eu galw yn ôl yn gynt ar ddiwrnod poethaf 2013.
Ar ddiwrnod olaf y cwest, fe ofynnwyd i'r crwner allai hi ystyried dyfarniad o ladd anghyfreithlon.
Ymysg materion eraill, bu rhaid iddi ystyried a oedd y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi methu a sicrhau bod yr ymarferiad wedi ei gynnal yn ddiogel.
Ond nid darganfod bai yw nod y cwest - yn hytrach, bydd penderfyniad y crwner yn sefydlu amgylchiadau marwolaethau'r dynion.

Cerbydau milwrol a'r gwasanaethau brys ger lleoliad y marwolaethau ym mis Gorffennaf 2013