£30 miliwn i wella gwasanaethau cefn gwlad Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cyllid ychwanegol o £30 miliwn ar gael i roi hwb i gludiant gwledig, swyddi a chynhyrchu bwyd.
Daw hyn fel y rhan ddiweddaraf o raglen datblygu gwledig gwerth £1 biliwn gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi'i anelu at adfywio a chefnogi cefn gwlad erbyn 2020.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Ffermio, Rebecca Evans, mai'r nod yw cynhyrchu gweithgaredd economaidd tra'n diogelu adnoddau.
Dywedodd ei bod am sicrhau bod "cefn gwlad Cymru yn gynyddol yn fwy gwydn a chynaliadwy".
Fe fydd ffermwyr, cwmnïau a sefydliadau gwledig eraill yn cael eu gwahodd i wneud cais am arian o dan bedwar cynllun newydd:
Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, i gefnogi cludiant a phrosiectau "cysylltiol";
Grant Cynhyrchu Cynaliadwy, i helpu ffermwyr;
Cynllun Buddsoddi Busnesau Bwyd, gan ganolbwyntio ar swyddi;
Rhaglen Cydweithio, sy'n agored i syniadau arloesol mewn unrhyw sector.
Mae'r rhaglen Cymunedau Gwledig, fydd yn para am saith mlynedd hefyd yn cynnwys grantiau a ddyfernir o dan y cynllun Glastir a chynlluniau LEADER.
Mae cyllid ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru, gyda chynghorwyr Llywodraeth Cymru yn dweud bod o leiaf 20 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnwys ardaloedd gwledig.