Ateb y Galw: Catrin Finch

  • Cyhoeddwyd
Finch

Y delynores Catrin Finch sy'n cael ei holi gan Cymru Fyw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Nia Roberts.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cwympo oddi ar swingyn yr Almaen yn gwisgo fy ffrog orau.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Simon Le Bon.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'm yn dweud!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yn gwylio ffilm.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Byth isio codi.

Disgrifiad o’r llun,

Ai yn fan hyn y mae Catrin yn cadw ei thelynnau yn ddiogel?

Dy hoff ddinas yn y byd?

Efrog Newydd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson parti ein priodas.

Oes gen ti datŵ?

Na.

Beth yw dy hoff lyfr?

'Da Vinci Code'.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Bŵts coch.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Waking Ned'.

Dy hoff albwm?

Newid trwy'r amser, ond ar hyn o bryd 'Hey Eugene' - dwi'n ffan o Pink Martini.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Salad Caprese; pizza; tiramasu Hywel!! Bwyd Eidalaid bob tro!

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin wedi syrthio mewn cariad hefyd gyda un o bwdinau Hywel, ei gŵr

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio.

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Ditectif.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Lisa Jên.