Beth yw 'Mwynder Maldwyn'?
- Cyhoeddwyd
Celwydd noeth, cysyniad sentimental neu rhan annatod o gymeriad y bobl a thirwedd y fro?
Mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i rai o bobl ardal Eisteddfod Genedlaethol 2015 i esbonio beth mae 'Mwynder Maldwyn' yn ei olygu iddyn nhw.
Mary Steele (un o olygyddion papur lleol Plu'r Gweunydd)
Mae'n wir fod yna fwynder i'w weld yn nhirwedd yr hen sir - bryniau a dolydd toreithiog, dyffrynnoedd llydain, hardd dros ddarn o dir sy'n ymestyn ar draws Cymru gyfan.
Ond a yw hi'n wir fod y 'mwynder' hwnnw wedi treiddio i gymeriad pobl Maldwyn neu ai syniad rhamantaidd, diystyr yw hwn?
Mae'n wir fod y bobl gynhenid, y Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg, yn meddu ar elfen gyffredin - maen nhw'n bobl addfwyn, ddi-ffỳs a hamddenol, ond efallai mai natur wasgaredig y boblogaeth sy'n gyfrifol am hynny. Maen nhw'n bobl heddychlon sydd wedi cael eu bendithio â chael byw mewn cefn gwlad gogoneddus o hardd a thawel, felly pa ryfedd eu bod yn bobl fodlon eu byd?
Ni chlywch chi bobl Maldwyn eu hunain yn sôn am y 'mwynder' hwn sydd i fod yn rhan o'u cymeriad. Rhywbeth y mae pobl o'r tu allan yn sylwi arno ydy o. Mae'r beirdd diweddar hyd yn oed yn sôn am yr ardal hon fel 'Gwlad y Mwynder', gan awgrymu ein bod yn bobl hamddenol ac ara' deg, a bod dod i Faldwyn fel camu'n ôl i ryw orffennol pell mewn arall fyd!
Dewch draw i Feifod felly i fwynhau'r Eisteddfod ac efallai y cewch chithau gipolwg, yma a thraw, ar yr elfen anodd ei diffinio honno sydd, medden nhw, yn rhan ohonom!
Dafydd Morgan Lewis (bardd ac awdur)
Am hanner awr wedi unarddeg ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod, yn y Babell Lên fe fydd Ysgol Uwchradd Caereinion yn cyflwyno 'Mwrdwr Maldwyn'. Yr hyn a gawn fydd hanes rhai o'r llofruddiaethau erchyll a gyflawnwyd yn y sir tros y canrifoedd. Mae yna awgrym clir yn nheitl y cyflwyniad nad yw pobl Maldwyn mor fwyn â hynny wedi'r cwbl.
Yn wir, mae llawer ohonom wedi cael llond bol ar yr yr holl siarad sentimental am ein mwynder honedig, boed hynny'n gyfeiriad at y tirwedd neu'r bobl.
A dweud y gwir mae 'mwynder' yn un o'r geiriau hynny sy'n dal y sir yn ei hôl. Gair sy'n ddihangfa rhag realiti y presennol. Mae'n derm adweithiol, ceidwadol ac anwleidyddol. Awgryma mai dymuniad pobl yr ardal yw rhyw arafwch disymud, digyfnewid. Yn sicr mae'r arafwch clên hwn yn gwbl andwyol i ddyfodol y Gymraeg yn y cylch.
Ond, mae'r mwynder bondigrybwyll hwn yn gelwydd noeth a dweud y gwir. Rydyn ni yn gallu ffraeo cystal â neb, yn arbennig ynglŷn â'r pethau hynny sy'n cynnig newid ac yn debyg o fod yn llesol i ni. Y pethau yr ydym yn llwyddo i ffraeo waethaf yn eu cylch ar hyn o bryd yw melinau gwynt a sicrhau Ysgol Uwchradd Ddwyieithog yn ardal y Steddfod (mae hon yn ffrae sydd wedi bod yn corddi ym mro Caereinion ers tros 20 mlynedd).
Ond heb addysg Gymraeg ac heb felinau gwynt i hybu'r economi (ond os medrwch chi gynnig rhywbeth arall, gwnewch hynny) ni fydd dyfodol i'r Gymraeg yn yr ardal hon.
Mi fydd yma harddwch, tawelwch a mwynder wrth gwrs. Gyda llaw, mae'r pethau hyn i'w cael ym mhob mynwent trwy'r wlad. Mi fyddwn ni hefyd yn parhau i ffraeo fel pawb arall. Ond yn anffodus, mae'n ymddangos mai trwy gyfrwng y Saesneg y byddwn ni'n gwneud hynny.
Huw Jones (swyddog gweithredol sirol Undeb Amaethwyr Cymru)
Yn y lle cyntaf, mae 'mwynder Maldwyn' yn cyfeirio at y tirwedd - y bryniau gwyrddion, y gwastadeddau hardd a'r cymoedd llydan gydag enwau hudolus a hyfryd megis 'Cwm Nant yr Eira'. Dyma gefn gwlad ar ei orau.
Ond mae tirwedd yn creu cymeriadau lle mae yna hiwmor a gwreiddioldeb, lle mae yna agosatrwydd a gonestrwydd. Mae yna hefyd falchder o ddiwylliant a thraddodiadau ac o barhad y dreftadaeth Gymreig. Rhywsut mae yna ymdeimlad o berthyn i ardal a chymdogaeth; elfen gref o hunaniaeth, a beth sy'n gwbwl unigryw yw'r dafodiaith sydd mor nodweddiadol o'r sir.
O sôn am ddiwylliant, rhaid nodi mai dyma gadarnle traddodiad y Plygain, a daw i'r cof gampau aelwydydd megis Penllys a Bro Ddyfi.
Beryl Vaughan (cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau)
Mae Mwynder Maldwyn yn y tirwedd o fy nghwmpas - yn fryniau a mynyddoedd heb fod yn uchel a llyfnder y tir. Mae yma dirwedd yn newid o fod yn hollol wastad i fod yn fryncyn perffaith a golygfeydd amrywiol a phrydferth.
Mae'r mwynder hefyd yn y bobl. Er i mi ddod i Faldwyn i fyw o Feirion, cefais fy nerbyn i'r gymdeithas heb ddim trafferth ac ymdoddi i'r bywyd cefn gwlad sydd yma efo gweithgareddau amrywiol a chymdeithas glos a meddylgar.
Lle delfrydol i fyw ynddo yw Cwm Nant yr Eira yng nghanol y Mwynder - a Plu'r Gweunydd yn hofran yn y gwynt.
Hedd Bleddyn (awdur, bardd a chyn-gadeirydd Cyngor Maldwyn)
Symudodd fy rhieni o Feirion i Faldwyn yn 1938 tua tri mis cyn fy ngeni, ac felly un o blant Maldwyn oeddwn a dyfodd i fod yn ddyn Maldwyn i'r carn.
Roedd plentyndod a ieuenctid i mi yn fwrlwm o ddiwylliant, Cymreictod a braint o fyw mewn cymdeithas draddodiadol Gymreig er mae'n debyg nad oedd Llanbrynmair yn wahanol i'r helyw o gymunedau eraill Cymru yn y cyfnod hwn.
Yn niwedd y chwedegau, oherwydd newid ym mywyd y gymuned, gwelais yr angen i fynd yn rhan o lywodraeth leol i geisio adfer y sefyllfa. Cyngor Plwyf oedd y dechrau, yna o 1979 i 2003 Cyngor Maldwyn ac yna Powys.
Yng Nhyngor Maldwyn gwelais fod Maldwyn yn unigryw gan ei bod fel sir yn wregys ar draws canol Cymru - o glawdd Offa i'r arfordir. Ar yr un pryd mae hefyd fel rhyw dir-neb rhwng y 'Gogs' a'r 'Hwntws'.
Mae mwy o wahaniaeth diwylliant, cymeriad ac iaith rhwng gorllewin a dwyrain Maldwyn na sydd rhwng gogledd a de Cymru. Ond fel aelod a chadeirydd Cyngor Maldwyn gwelais yn glir iawn y cydweithrediad anhygoel oedd trwy'r sir gyfan. Yn yr un ffordd roedd yna gydweithrediad gyda gogledd a de Cymru bob amser. Beth yw'r rheswm am hyn? Tybed ai Mwynder Maldwyn ydyw?
Mae yna rai diawled styfnig a chroes yma hefyd ond buan cânt eu boddi ym mhwll di-waelod y Mwynder!
Rydym yn dal i arddel Maldwyn fel sir er i John Redwood a'i lywodraeth ei dileu yn 1995. Mynnwn i gyd mai pobl Maldwyn ydym. Dyma englyn gan Talog o Llanrhaeadr i Faldwyn:
"Am mae estron yw'r meistri - ni welent
Mor annwyl yw inni;
Er dyfod ei difrodi
Maldwyn fydd Maldwyn i mi."