Siaradwch yn ddeche!
- Cyhoeddwyd
'Sgennoch chi ddim cythgiam o lot o amser cyn Meifod. 'Wan te, mae'r cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu Mererid Wigley, lodes o Dalywern ger Machynlleth, yma i'ch helpu ddiallt acen a thafodiaith Maldwyn. Achos sdim byd gwéith ne chiel cross-wires yn neg oes?
Cogie a lodesi
"Waeth i fi fod yn bléin ddim… Os 'de chi'n meddwl mentro drew i'r Canolbarth ym mis Awst, well i chi ddechre ciel lesyns ar sut mei cogie a lodesi ffor'cw'n siarad neu fyddwch chi'n diallt dim ar faes y 'Steddfod 'na!
"Mae'r iaith Gymraeg 'di altro lot dros y blynydde, ond mei 'na rai geiriau sy' béch yn wahanol yn yr hen Sir Drefaldwyn 'ma o hyd, ac mei angen i chi eu gwbod neu fe gowch chi gythgiam o sioc pan gyrhaeddwch chi Meifod!
"'Wan te, y camgymeriad mei'r rhan fwya o fforeinyrs i Faldwyn yn ei 'neud ydi troi'r 'a' mewn geiriau yn sŵn 'e', ond, dechi'n gweld, dio'm yn gweithio fel'na bob tro! Ydi, mae tân yn troi'n dén a chath yn gieth, ond dydy mat ddim yn fét, iawn?!
"Un peth ydi trio tiwnio fewn i'r acen ond mae'r busnes tafodieth 'ma yn fwy ne 'ny. Mei genno ni ystyron 'chydig yn wahanol i rai geiriau cyffredin. Falle bo' chi'n coelio bod 'trigo' yn golygu 'byw yn rhwle' ond 'marw' mei o'n 'i feddwl ffor'cw. Mei 'moen' yn un arall. Mynd i 'nôl rhwbeth', yn hytrach nag 'eisiau rhwbeth' sy' genno ni dan sylw; a phan de' ni'n deud bo ni'n 'starfio', wel, teimlo'r oerfel yden ni, nid bo' ni'n llwglyd.
Twten ydi twten
"Bydd angen i chi fod yn reit ofalus, er enghraifft, pan fyddwch chi'n archebu'ch cinio ar y maes. Chi'n gweld, i fi - twten ydi twten. Ne, nid sôn am ddynes fech, fer ydwi! Tatws sy' genna i mewn golwg. I chi - tatw, tato neu daten fydde hi, mei'n shwr, ond twten fydd hi i bobl Sir Drefaldwyn byth.
"Sdim byd gwéith ne chiel cross-wires yn neg oes? Roiai esiampl i chi… Ro'n i'n ciel sgwrs efo Tegwyn, drws nesa, ddoe bore. Roedd hi jyst cyn beit, ac ro'n i'n clemio'n go lew. Beth bynnag, sôn oedd o am ryw salesman o lawr tua Ceredigion ffor'cw oedd 'di dod i'r ffalt i werthu rhwbeth neu'i gilydd, fel mei nhw.
"Ar yr wtra, ar y ffor' fyny i'r ffarm, roedd Tegwyn wrthi'n torri stingie. Mi stopiodd y cog ifanc a weindio ffenest ei gerbyd i lawr, a deud: "Chi'n fishi'n trasho, Tegwyn!" Wel, 'drychodd Tegwyn yn dwp arno fel tae o 'di dod o Timbyctŵ. Roedd o'n meddwl bod y salesman druan yn trio deud bod o'n 'neud mess o bethe. Digon ydi deud ne fydd y cog bech yna'n ciel lot o fusnes gan drws nesa. Falle, petei o wedi diallt iaith Tegwyn, fyse hi'n fater gwahanol, ond dyne ni.
"Dwi ddim ishe i chi wneud yr un mistêcs, felly, i'ch helpu chi siarad yn ddeche, dwi wedi rhoi geirfa at ei gilydd. Ond tén 'dani'n go ffêst, achos 'sgennoch chi ddim cythgiam o lot o amser cyn Meifod!"
Geirfa Maldwyn
Cog, cogie - bachgen, bechgyn
Lodes, lodesi - merch, merched
Shetyn, sietyn - clawdd
Stingoedd, stingie - gwrychoedd
Twten - taten
Meirioli - dadmer
Cythgiam - andros
Heddiw bore - bore heddiw
Fory bore - bore fory
Altro - newid
Starfio - oer
Clemio, ar glem - starfio, llwglyd
Deche - rhywun neu rhywbeth go lew, taclus
Trigo - wedi marw
Prifio - tyfu
Ffêst - cyflym
Fflŵr - blawd pobi
Bobi un / Bobo un - un yr un
Macyn poced - hances boced
Swîts - losin
Switsen - un losiynen
Wtra - ffordd gul
Moen - mofyn, mynd i ôl rhywbeth
Ffalt - buarth
Pres - arian
Bydd Dr Iwan Rees yn cynnal gweithdy ar dafodiaith Maldwyn ddoe a heddiw ym Mhabell Prifysgol Caerdydd ar faes yr Eisteddfod am 1pm, ddydd Mercher 5 Awst. Bydd hefyd yn dosbarthu holiadur gyda'r bwriad o daflu goleuni ar y datblygiadau ieithyddol sydd ar waith heddiw drwy Gymru.