Marwolaeth milwr: Ymddiheuriad 'rhy hwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn o Gonwy fu farw ar ymarferiad gyda'r SAS ar Fannau Brycheiniog yn 2013 yn dweud fod ymddiheuriad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn "ddwy flynedd yn rhy hwyr".
Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts, o Fae Penrhyn, yn ystod yr ymarferiad ger mynydd Pen-y-Fan ym mis Gorffennaf 2013.
Bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Daeth cwest diweddar i'w marwolaethau i'r casgliad fod esgeulustod wedi bod yn ffactor.
Dywedodd y Fyddin ei fod yn derbyn nad oedd digon o reolaeth o risg wedi bod yn ystod yr ymarferiad.
Mewn datganiad i'r Daily Post, dywedodd rhieni'r Is-gorporal Craig Roberts, Kelvin a Margaret, a'i chwaer Elizabeth: "Mae wedi bod yn ddwy flynedd hir ers i ni golli Craig, ond dim ond yr wythnos hon y cawsom ymddiheuriad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn am eu methiannau.
"O gofio eu bod wedi cynnal eu hymchwiliad eu hunain yn bell cyn y cwest a'u bod wedi gwneud newidiadau i agweddau diogelwch yr ymarferiad wythnos yn fuan wedi'r marwolaethau, gan sicrhau fod eu rheolau eu hunain yn cael eu dilyn, rydym yn teimlo fod yr ymddiheuriad hwn ddwy flynedd yn rhy hwyr."
Dywed y teulu fod y profion ar yr ymarferiad wedi eu cynllunio ar gyfer profi gwytnwch y milwyr, ac roeddynt yn derbyn hyn, ond nid oedd y 37 milwr wrth gefn ar yr ymarferiad wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer delio gydag effeithiau gwres.
Ychwanegodd y teulu fod milwyr sydd yn cael eu hanfon i amgylcheddau poeth yn derbyn hyfforddiant o flaen llaw.
Fe wnaeth y teulu hefyd nodi cyfeiriadau at asesiadau risg a chanllawiau salwch o achos gwres, oedd yn destun sylw'r cwest. Dywedodd tystion ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y cwest nad oedden nhw'n ymwybodol o'r canllawiau hyn.
'Trist a blin'
Yn ôl y teulu roedd yr Is-gorporal Craig Roberts wedi cwblhau asesiadau risg yn y gorffenol ac "wedi disgwyl fod camau diogelwch wedi eu rhoi yn eu lle" gan y bobl oedd yn rheoli'r ymarferiad y diwrnod hwnnw.
Ychwanegodd y datganiad: "Rydym wedi'n tristau ac yn flin mai methiannau'r Weinyddiaeth Amddiffyn achosodd ei farwolaeth", gan ddweud y dylid dysgu gwersi er mwyn atal teuluoedd eraill rhag gorfod mynd drwy'r un profiad.
Cafodd yr Is-gorporal Roberts ei ddisgrifio fel "mab, brawd, nai ac ŵyr cariadus oedd wedi dod a gymaint o lawenydd a hapusrwydd i ni".
Daeth y crwner yn y cwest i farwolaethau'r tri milwr i'r casgliad fod esgeulustod wedi cyfrannu i'w marwolaeth.
Wrth gofnodi rheithfarn naratif i farwolaeth y tri, dywedodd y crwner Louise Hunt nad oedd y rhai oedd wedi cymryd rhan yn yr ymarferiad y diwrnod hwnnw wedi derbyn briff ddigon cyflawn. Roedd yr ymarferiad ar y Bannau wedi bod yn ben llanw ar chwe mis o hyfforddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2015