Dyrnu dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Fuasech chi'n mentro i gawell gyda Brett Johns o Bontarddulais?
Nid ar chwarae bach! Mae'r Cymro 23 oed bellach yn ddi-guro mewn gornest broffesiynol ymladd cawell.
Mi gafodd ei fuddugoliaeth ddiwethaf ar 18 Gorffennaf yn erbyn Anthony Guiterrez yn Kansas City, America.
Er iddo ennill yr ornest, collodd ei deitl fel Pencampwr Pwysau Bantam Titan FC gan nad oedd o wedi cyrraedd y pwysau gorfodol, ond mae'n gobeithio cael y cyfle i adennill ei wregys yn ei ornest nesaf.
Fe gafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Brett ar ôl iddo gyrraedd adref:
Llongyfarchiadau mawr, pa mor felys oedd y fuddugoliaeth ddiwetha' 'ma?
O'n i'n hapus iawn i ddod adre gyda'r fuddugoliaeth, o'n i methu aros i'r wythnos orffen dweud y gwir. Hon oedd yr wythnos waetha' dwi wedi ei chael o ran paratoi.
Nes i fethu cyrraedd y pwysau cywir oherwydd mod i'n dost cyn y pwyso, oedd y doctor wedi dweud na ddylwn i ymladd, felly yn amlwg roedd fy emosiynau lan a lawr.
Yna, yn y ffeit, yn y drydedd rownd 'na'th fy mhenglin bopo mas, felly roedd yn neis dod adre'i ddathlu'r fuddugoliaeth.
Pa mor rhwystredig oedd colli dy deitl?
Rhwystredig iawn. Yn yr wythnosau cyn ymladd dwi'n arfer colli 16-17 pwys, ac roedd popeth yn mynd yn grêt wythnos dwetha', ond ar fore'r ffeit o'n i rhyw ddau bwys o'r pwysau cywir.
Fel arfer fyswn i'n mynd i'r sauna ond roedd rhaid i fi fynd i'r ysbyty gan fod gen i inflamed stomach... so ie, rhwystredig bo' fi heb allu cadw'r teitl ond hapus i ddod adre' wedi ennill.
Rwy'n ymladd y bois gore yn y byd, nid jyst Cymru ac Ewrop, felly mae'n grêt dod adre' gyda buddugoliaeth.
Pryd gei di gyfle i adennill y gwregys?
Gobeithio ym mis Medi. Nes i guro Guttierez â finne ond yn 50% ffit, ond y tro nesa' byddai'n 100% felly dwi am fynd allan yno a dangos i bawb be' dwi'n gallu 'neud.
Rwy'n gwybod na fydd Guttierez isio ymladd fi eto, o'n i'n gwybod hynny ar ôl ei guro wythnos dwetha'.
Felly os mai Guttierez fydda i'n ymladd i gael y teitl nôl - grêt, neu pwy bynnag.
Dwi ddim yn g'neud hyn am yr arian na'r fame, dwi'n g'neud hyn am mod i'n hoffi ymladd.
Pam benderfynias di ymuno gydag adran y Titans yn America eleni?
Cyn symyd i'r Unol Daliaethau, roedd pob gornest wedi bod yn lleol, yn llythrennol dim mwy na 50 milltir o fy nghartre'. Roeddwn i yn ymladd yng Nghasnewydd, y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd, y C2 yn Abertawe.
Daeth Titans ata i a dweud bo' nhw isio fy arwyddo i, ac ar ôl gweld y rhestr o ymladdwyr oedd yn cynnwys enwau gorau'r byd, roedd y penderfyniad yn un hawdd.
Be wnaeth i ti ddewis ymladd cawell, a beth oedd ymateb dy fam?
Pan dd'wedes i wrth Mam y tro cyntaf pan o'n i tua 15, doedd hi ddim yn hapus - ddim yn hapus o gwbwl - ond wedi blynyddoedd o begio a mynd yn hŷn, doedd hi methu deud 'na'!
Rwy'n ymwybodol o'r risg yn y gawell, dwi'n gwybod bod hi'n gallu bod yn beryglus. Dros y penwythnos diwetha', cafodd un bachgen o Brasil 15 pwyth uwchben ei lygaid - mae 'na risg, ond rwy'n hapus i'w cymryd nhw er mwyn ennill.
Rwy'n gwybod bod y gallu gen i ennill teitl UFC - os byddwn i ddim yna fydde'n well rhoi'r gore iddi. Dwi'n gwybod bydd angen llawer o sacrifice ond dwi'n hyderus y galla'i fod y best of all time.
A beth am dy gariad Carys, ydi hi'n mwynhau neu'n cadw draw pan wyt ti yn y gawell?
Ha, ma hi'n joio pan dwi'n ennill ac yn joio gwario'r siec! Ond na, ma hi'n mynd 'chydig yn emosiynol bob amser, yn enwedig penwythnos d'wetha pan 'nes i anafu fy nghoes yn y drydedd rownd a phawb yn meddwl "he's finished", roedd hynny'n anodd iddi.
Oes unrhyw obaith i gael gornest ar y lefel uchaf yng Nghymru?
Dyw hynny ddim yn opsiwn ar y funud, nes mod i wedi cyrraedd yr UFC, ond hoffwn i gael sell out crowd yn Stadiwm y Mileniwm.
Ro'dd gornest UFC yn Glasgow yn ddiweddar, felly sdim rheswm pan na all ddod i Gymru a'r Mileniwm.
Ymladd gyda'r mawrion yn yr UFC, a'i dyna yw'r prif nod?
Yn sicr, ma' hwnnw fel yr Uwch Gynghrair neu'r Champions League i ymladdwyr. Fan honno mae'r goreuon i gyd.
Ond i gyrraedd yr UFC, ma' rhaid parhau i ennill a chyn bo hir fe ddaw y gwahoddiad.
Rwy' yn y 5 gore yn y byd yn y pwysau Bantam, felly pam ddim?
Falle trwy wneud hynny ga'i gyfle i wireddu fy mreuddwyd o ymladd yn Stadiwm y Mileniwm, Las Vegas a Madison Square Garden.
Mae 'na isafswm o £15,000 am ennill gornest yn yr UFC hefyd, sydd ddim yn ddrwg!
Rhaid gofyn Brett, o ble ddaeth y llysenw "The Pikey"?!
Ha, syml, oherwydd y ffordd o'n i'n arfer gwisgo ar noson allan yn Abertawe pan yn 18!