'Yr hiraeth i'w deimlo ymhob nodyn'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gryn sôn wedi bod am sioe gerdd ddiweddaraf Cwmni Theatr Maldwyn, 'Gwydion'. Dyma'r sioe sy'n agor Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni, ac fe werthodd y tocynnau i gyd mewn llai nag wythnos.
Fe gafodd y sioe ei hysgrifennu gan Penri Roberts, Gareth Glyn a'r diweddar Derec Williams.
Mewn dyddiadur arbennig i Cymru Fyw, mae Branwen Haf Williams - merch Derec ac un o gyfarwyddwyr y sioe - yn rhannu ei phrofiadau.
9 Ionawr, 2015
Heno, wedi bron i ddwy flynedd o ysgrifennu, cyfansoddi a chwysu, cynhelir ymarfer cyntaf 'Gwydion'! Mae hi wedi bod yn bron i 12 mlynedd ers i Gwmni Theatr Maldwyn lwyfannu sioe gerdd ddiwethaf - a hynny, yn rhyfedd iawn, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003. Y tro hwnnw, roeddwn i yn y chweched dosbarth ac yn ddigon hen, o'r diwedd, i fod yn rhan o gast y sioe 'Ann!' Mae pob munud o'r profiad hwnnw wedi serio yn y cof, a 'dw i methu credu bellach, 'mod i'n rhan o dîm cynhyrchu Cwmni Theatr Maldwyn.
Daeth bron i 150 o bobl - o oedran ysgol uwchradd i'r 'hŷn' i'r ymarfer! Profiad bythgofiadwy oedd sefyll o'u blaenau i ddechrau'r gwaith o ddysgu sgôr 250 o dudalennau. Ond os yw heno'n arwydd o'r hyn sydd i ddod, yna fe fyddwn ni'n ocê!
15 Chwefror, 2015
Wedi sawl ymarfer nos Wener adeiladol, daeth pnawn y clyweliadau. Er mai un o nodweddion Cwmni Maldwyn yw peidio mawrygu'r unawdwyr, mae nhw'n rhan annatod o unrhyw sioe. Ac mae'n rhaid edmygu unrhyw un sy'n ddigon dewr i fynychu clyweliad.
'Dwn i'm sawl un ohonoch sydd erioed wedi eistedd mewn clyweliadau o'r blaen, ond gall ambell foment hudol godi. Dyma'r tro cyntaf i ni glywed rhai o unawdau mawr y sioe yn cael eu canu, heb sôn am gael eu cymeriadu, gan bob un o'r ymgeiswyr. Roedd hi'n amhosib peidio colli deigryn.
Heb fawr ddim anghydweld, mae'r cymeriadau oll - 10 ohonyn nhw - yn cael eu dewis, ac mae gan Blodeuwedd, Gwydion a gweddill cymeriadau'r bedwaredd gainc, wynebau!
8 Mawrth, 2015
Mae'r ymarferion yn parhau bob nos Wener ar gyfer y corws, a'r prif gymeriadau'n cwrdd ar ddydd Sul. Mae 'na sawl rhan heriol yn y sioe, ble mae 'na themâu mawrion yn cael eu trafod. Mae 'na lawer o chwysu dros ambell ddarn corws - dyfal donc!
12 Ebrill, 2015
Heddiw, plethwyd rhannau'r corws a'r unawdwyr am y tro cyntaf. Bu merched ifanc sy'n rhan o Ysgol Theatr Maldwyn hefyd yn gweithio ar greu dawns i rannau o'r sioe.
Aeth pawb adre'n teimlo ein bod wedi cymryd camau breision heddiw.
22 Ebrill, 2015
Mae tocynnau Gwydion ar werth heddiw - 5 diwrnod yn ddiweddarach ac maent oll wedi eu gwerthu, gan dorri record gwerthiant cyflymaf yr Eisteddfod. Fel dywedodd Penri gyda'i dafod yn ei foch - "Pwysau? Pa bwysau...?!"
15 Mai, 2015
Mae 'na sawl carreg filltir ar y daith o greu a chynhyrchu sioe gerdd. Roedd heddiw yn un ohonyn nhw, wrth i ni orffen dysgu'r holl sgôr.
Ar gyfer y sioe hon, byddwn hefyd yn defnyddio sgriniau, ac mae'r cyfarfodydd technegol yn mynd yn eu blaen yn dda.
14 Mehefin, 2015
Heddiw, llwyddwyd i lwyfannu'r sioe yn eu chyfanrwydd am y tro cyntaf - rhannau'r cast, y corws, y band a'r dawnsio. Dydi hi ddim yn berffaith eto, ond mae'n rhyfeddol sut mae popeth wedi dod i'w le. Dyna'r teimlad trwy gydol gweithio ar 'Gwydion' - fod pawb wirioneddol o ddifri, yn un tîm mawr yn gweithio tuag at un nod.
19 Gorffennaf, 2015
Mae amser wedi carlamu yn ei flaen, ac mae'r noson fawr ar y gorwel. Mae'r Pafiliwn Pinc ar ei draed ers wythnosau, ac mae'r nerfau'n dechrau brathu! Neithiwr, gwelwyd hysbyseb y sioe ar S4C am y tro cyntaf (bydd darllediad o'r sioe, a rhaglen 'tu ôl i'r llen' yn cael eu dangos).
Mae gwylio 'Gwydion' yn dod yn fyw wedi bod yn brofiad chwerw-felys, heb bersonoliaeth a chymeriad enfawr Dad yn yr ymarferion. Mae'n deimlad braf o wybod ei fod yn cael ei anfarwoli trwy gyfrwng sioeau Cwmni Theatr Maldwyn, a thrwy'r profiadau y mae'r cwmni wedi eu cynnig i gannoedd os nad miloedd o bobl erbyn hyn. Ond, serch hynny, mae'r hiraeth i'w deimlo ym mhob nodyn.
Bydd Cwmni Theatr Maldwyn yn camu ar lwyfan Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2015 i wneud ein gorau glas i wneud cyfiawnder â'r sioe gerdd epig yma - ac yn ôl ei arfer, dw i'n reit siŵr y bydd Dad yn neidio i fyny ac i lawr yng nghefn y pafiliwn, yn wên o glust i glust.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2015