Cofio Nansi - telynores Maldwyn
- Cyhoeddwyd
I Nansi Richards mae'r diolch yn bennaf bod y grefft o ganu'r delyn deires yn fyw yng Nghymru heddiw. Ac mi fydd cyfres o ddigwyddiadau adeg wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn talu teyrnged i waith ac i fywyd 'Telynores Maldwyn'.
Ond i'r brodyr Dafydd a Gwyndaf Roberts o'r grŵp Ar Log nid athrawes yn unig oedd Nansi. Yma, mae Gwyndaf yn hel atgofion am y cymeriad lliwgar, bywiog oedd hefyd yn gydymaith:
O Faldwyn i Lundain
Ganwyd Nansi ym 1888 ar fferm Penybontfawr, Sir Drefaldwyn. Jane Ann oedd ei henw, nid Nansi, a Siani y gelwid hi ar yr aelwyd, ac roedd honno'n aelwyd gerddorol a llengar ac yn aelwyd agored bob tro.
Ei hathro ar y delyn oedd Tom Lloyd oedd yn byw yn Llangynog ac roedd yn cael ei adnabod fel Telynor Ceiriog a dyma'r ddolen gyswllt efo telynorion y gorffennol. Daeth Nansi'r disgybl yn ei thro yn Nansi'r athrawes wrth iddi drosglwyddo cyfoeth traddodiad y delyn deires i ddwsinau o delynorion ifanc; plant a phlant plant, perthnasau a ffrindiau.
Yn 1908 enillodd y gystadleuaeth canu'r delyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yna drachefn ym 1909 a 1910. Yn fuan wedyn aeth i astudio cerddoriaeth yn y Guildhall yn Llundain a thra roedd yn lojio yn Llundain, ymwelai'n gyson â 10 Downing Street i ddiddanu teulu Lloyd George.
Ar ôl rhyw flwyddyn gadawodd y Guildhall a mynd i fyd y Music Halls ond dychwelyd i Benybontfawr wnaeth Nansi oherwydd mae'n debyg, yn ei geiriau ei hun, nad oedd ei "stage etiquette i fyny i'r safon!"
Atgofion cyntaf
Nid athrawes yn unig oedd Nansi i mi, ond Anti Nansi, er nad oedd yn perthyn dafn o waed. Yr oedd Nansi yn ffrind pennaf i Nain, sef mam fy mam. Yn wir fe enwyd Mam ar ei hôl, Jane Ann. Roedd brawd Nain, Dei Llwyncwbl, yn ddisgybl i Nansi hefyd ond collodd ei fywyd yn y Rhyfel Mawr.
Y cof cyntaf sydd gennyf am Nansi yw ei chlywed yn canu'r delyn yn Neuadd Mynytho, a minnau'n fach iawn, ac rwy'n cofio mynd i gefn llwyfan a rhoi fy mysedd ar delyn Nansi a cheisio canu 'Iesu Tirion'. Dechreuodd y diddordeb yn syth ac ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach cefais fy nhelyn gyntaf, a honno drwy ryfedd wyrth yn delyn deires amhrisiadwy, telyn goll Llanofer.
Deuai Nansi atom yn gyson wedi hynny i roi gwersi ar y deires i Dafydd fy mrawd a minnau, a'n dysgu i'w chanu ar yr ysgwydd chwith, fel y dysgwyd hithau gan Delynor Ceiriog.
Rhannai â ni ei hatgofion. Yr oedd ei chof yn berffaith hyd y diwedd, a'i hanesion difyr yn foddion gras. Roedd ei hiwmor yn ddihysbydd a chawsom ar yr aelwyd, oriau o chwerthin iach yn ei chwmni. Crwydro y bu Nansi erioed. Yr oedd ganddi ryw fath opit stop ledled Cymru.
Pan oeddwn yn y coleg ddechrau'r saithdegau fe es ar daith gyda Nansi yn y car. Awgrym Nansi oedd ein bod yn dilyn llwybrau rhai o deulu'r Sipsiwn. "Duwch, mi gawn de yn y tŷ acw." "Diawcs, mi gawn gysgu yn y ffarm yma heno." Crwydro o fan i fan gan gychwyn gyda bedd Abram Wood yn Eglwys Llangelynnin ger fy nghartref yn Llwyngwril ac mae cof da gennyf am berfformiad cyhoeddus cyntaf Dafydd a minnau efo hi yn yr hen eglwys. I'r Bala am ginio ac yna "We, We, fan yma mae Llywarch Hen wedi'i gladdu". Ymlaen wedyn i weld bedd 'Yr Eneth Gadd ei Gwrthod', yna heibio'r fan y daliwyd Dick Turpin wedi pedoli ei geffyl o chwith! Gorffen y daith wedyn wrth fedd John Roberts, Telynor Cymru, yn Y Drenewydd.
Dwi'n hynod o falch y cafodd Nansi fyw i weld Ar Log yn perfformio, a hynny yng Ngŵyl Werin Geltaidd Dolgellau ychydig cyn iddi farw ym 1979. Dyma ran o deyrnged Mam i Nansi yn rhaglen yr ŵyl y flwyddyn ganlynol:
"Ni sylweddolais erioed fod cymaint gwahaniaeth oedran rhyngom, ac felly yr un modd yn y berthynas rhwng ein dau fab Gwyndaf a Dafydd ac 'Anti Nansi'. Hoffais yn fawr ddisgrifiad Iona Trefor Jones ohoni ar fore'r angladd, sef mai rhyw 'Peter Pan o gymeriad oedd'. Nid anghofiaf byth y noson pan oeddem yn rhannu llofft a minnau'n deffro gefn nos a dim sŵn yn dod o wely Nansi. 'Nansi', meddwn mewn braw. 'Ydach chi'n iawn?' Nansi yn codi ei phen (oedd yn hongian dros erchwyn y gwely) 'Wel mi dwi'n dal i chwythu beth bynnag!"
Fel yna hoffai Mam a finnau feddwl am y 'frenhines' a allai ymddwyn yr un mor gartrefol ar aelwyd bwthyn neu blas, ag ar lwyfan neuadd bentre neu Neuadd Albert.
Heddiw rydyn ni'n cofio am Nansi Richards fel telynores o'r radd flaenaf ac un a dreiliodd ei bywyd yn ceisio sicrhau fod y delyn deires yn parhau'n offeryn byw gyda'i phriod le ar y llwyfan, nid yn yr amgueddfa.
Mynych y dywedodd na fynnai fyw i fod yn faich ar neb. Ychydig cyn ei marw fe ddywedodd: "Nid oes arna i eisiau byw i fod yn hen". Ac ni wnaeth 'chwaith!
Mae'r ddrama 'Nansi' yn cael ei chynnal nos Lun i Gwener yn Y Stiwt, Llanfair Caereinion