Y Fedal Ryddiaith ddoe a heddiw

  • Cyhoeddwyd
y fedal ryddiaith

Ddydd Mercher yw diwrnod seremoni'r Fedal Ryddiaith yn y Brifwyl. Cymru Fyw sy'n edrych 'nôl dros y blynyddoedd ac ar arwyddocâd y wobr heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gipiodd Lleucu Roberts y dwbl yn 2014

Y Dwbl

Does dim rhaid edrych yn rhy bell yn ôl am foment gofiadwy yn hanes y Fedal Ryddiaith. Y llynedd, am yr eildro mewn wythnos, Lleucu Roberts, o Rostryfan, gododd ar ei thraed yn y pafiliwn yn Sir Gâr - gan gipio'r dwbl fel y Priflenor ac enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen.

Ar ôl y seremoni'r llynedd, fe ddywedodd Lleucu wrth Cymru Fyw:

"Maen nhw'n dweud mai fi 'di'r cyntaf (i ennill y dwbl) ond 'dw i ddim yn siŵr. Mae pobl eraill ddigon call i ganolbwyntio ar un peth a'i wneud o'n iawn yn hytrach na gwneud dau beth!

"Do'n i ddim yn sylweddoli gymaint o bleser mae'n rhoi i glywed rhywun nid yn unig yn gwerthfawrogi ond yn cael be o'ch chi'n drio ei wneud, ac yn deall pam eich bod yn gwneud pethau mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ac efallai yn gwthio'r ffiniau, arbrofi mewn rhyw ffordd - roedd yn gymaint o bleser."

Gwerthu'r gyfrol

Ffynhonnell y llun, PAlas print
Disgrifiad o’r llun,

Eirian James: "Mae rhai'n dweud mai dyma pam fod mwy yn darllen gwaith beirdd Cymraeg byw na beirdd Saesneg byw, oherwydd gwobrau'r Steddfod"

Mae gan Eirian James, perchennog siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon, stondin ar faes yr Eisteddfod pob blwyddyn - ac iddi hi, cyhoeddi enillydd y fedal yw un o uchafbwyntiau'r wythnos.

"Pan nes i agor y siop am y tro cynta' doeddwn i ddim yn siŵr beth fyddai gwerthiant llyfrau'r fedal na chyfrol y Daniel. Ond mae'n deg dweud mai O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price, (enillydd y fedal yn Nhyddewi yn 2002) ydi un o'r llyfrau i ni werthu'r nifer mwya' o gopïau erioed, mi gafodd y gyfrol adolygiad gwych.

"Dwi'n meddwl fod yr holl syniad o wobrwyo awdur fel yma yn wych, ddim jyst o ran gwerthiant llyfrau, ond mae'r holl broses o ddathlu tamaid o lenyddiaeth yn tynnu sylw darllenwyr at waith awduron, ac mae rhai'n dweud mai dyna pam fod mwy yn darllen gwaith beirdd Cymraeg byw na beirdd Saesneg byw, oherwydd gwobrau'r Steddfod.

"Wrth gwrs, mae 'na bobl yn prynu'r cyfrolau bob blwyddyn, ac mae'n siŵr ein bod yn gwerthu pedair neu bum gwaith yn fwy o gyfrolau'r fedal, y Daniel a'r Cyfansoddiadau nag unrhyw lyfrau eraill yn ystod wythnos y Steddfod."

Mae 'na rai wedi galw am uno cystadlaethau'r Fedal ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen, ond eglurodd Eirian mai'r gwahaniaeth mwyaf rhwng y fedal a'r 'Daniel' yw bod y fedal yn gyfle i awduron "wthio ffiniau ac arbrofi".

Drwy lygaid y beirniaid

Beirniaid y fedal eleni yw Mari Emlyn, Dr Jerry Hunter a Manon Steffan Ros. Enillodd Dr Jerry Hunter y fedal yn Eisteddfod Blaenau Gwent yn 2010 gyda'i gyfrol Gwenddydd. Fe ofynodd BBC Cymru Fyw iddo beth sy'n gwneud nofel dda?

"Nid yw'n bosibl nodi 'un peth sydd ei angen'. Am wn i, un o'r meini prawf cyntaf yw cael gafael ar waith sy'n darllen fel gwaith gorffenedig, un y gellid dychmygu'i weld mewn print.

"Mae beirniad yn chwilio am yr un nodweddion sy'n rhoi profiad darllen pleserus neu gofiadwy i ddarllenydd - gwefr, gwreiddioldeb, stori sy'n gafael, a llawer o bethau eraill."

"Mae'n golygu llawer i lenor newydd ennill yn enwedig, dw i'n credu; hynny yw, mae'n ffordd wych o ddechrau neu 'lansio' gyrfa lenyddol. Fel arall, mae'n sicr ei fod yn brofiad sy'n golygu gwahanol bethau i wahanol awduron."

"Credaf fod y Fedal yn bwysig iawn heddiw. Mae llawer o Gymry Cymraeg sy'n cymryd llenyddiaeth o ddifrif yn dilyn hynt prif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod. Yn ogystal, mae cystadleuaeth y Fedal yn un o'r ffyn mesur pwysicaf ar gyfer asesu cyflwr rhyddiaith Gymraeg gyfoes (nid yw'r unig un, ac o bosibl nid yr un fwyaf dibynadwy, ond eto mae'n un o'r ffyn mesur pwysicaf!)."

Y Goron, Y Fedal a'r Gadair

Disgrifiad o’r llun,

Y Prifardd a'r Prif Lenor Mererid gyda'i dwy merch wedi iddi ennill y fedal yn 2008

Mae'r Prifardd a'r Priflenor Mererid bellach wedi ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith - y ferch gynta' i ennill tair prif wobr lenyddol y Brifwyl. Oes un wobr yn golygu mwy na'r lleill tybed?

"Fydda i ddim yn anghofio ennill y fedal, am fod honno yn Eisteddfod Caerdydd, dinas fy ngeni a'm magu, a digwydd bod ar ddiwrnod penblwydd un o'r plant yn 18 oed.

"Y brif fantais, heb os, yw cael mentro dan ffug-enw. Mae'n ffordd o brofi'r dŵr yn dawel bach. Mae cael gair o ymateb gan rywun di-duedd yn gymorth mawr - gall roi ychydig o hyder neu awgrym i chi; naill ffordd mae'n cynnig arweiniad at y tro nesaf."

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2016.