Parti môr-ladron i ddathlu T Llew Jones ar y maes

  • Cyhoeddwyd
Twm Siôn a Barti Ddu!

Mae ysbryd Barti Ddu a Twm Siôn Cati yn fyw ac yn iach ar faes yr Eisteddfod ym Meifod ddydd Gwener wrth i'r Brifwyl gynnal diwrnod o ddathliadau i gofio un o hoff awduron plant Cymru.

Parti Môr-ladron i blant ydy un o'r digwyddiadau ar Ddiwrnod T Llew Jones i nodi ei gyfraniad i lenyddiaeth, gydag eleni yn ganmlwyddiant ei eni ar 11 Hydref 1915.

Disgrifiad o’r llun,

T Llew yn cyflwyno'r rhaglen Dilyn Afon yn 1973

Roedd T Llew Jones yn awdur poblogaidd a chynhyrchiol a ysgrifennodd dros 50 o lyfrau, 35 ohonyn nhw i blant. Roedd hefyd yn fardd cadeiriog, yn athro ac yn arbenigwr ar wyddbwyll fu'n cynrychioli Cymru yn Olympiad Gwyddbwyll y Byd.

Yn ogystal, mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw'n darlledu cyfres o raglenni i nodi'r canmlwyddiant yn ystod mis Hydref.

Amserlen digwyddiadau

Mae digwyddiadau drwy'r bore yn yr Ŵyl Llên Plant ar faes y Brifwyl, gan ddechrau gyda Gweithdy Celf Barti Ddu a Twm Siôn Cati rhwng 10:00 - 12:00, a gorffen gyda Pharti Môr-ladron Barti Ddu am 14:00.

Disgrifiad o’r llun,

Aaarrr! Bydd Ben Dant yn ymuno yn y dathliadau ar faes yr Eisteddfod

Rhwng 11:30 a 15:30 yn Theatr y Maes mae Arad Goch yn cyflwyno Lleuad yn Olau, addasiad o gyfrol o straeon T Llew Jones i blant a gafodd ei hailgyhoeddi'r llynedd.

Ac ar Lwyfan y Maes am 14:00 bydd Sioe Cyw yn cyflwyno Ben Dant vs Twm Siôn Cati.

Fe fydd cyflwyniadau yn y Babell Lên yn y p'nawn hefyd: am 12:45 fe fydd Idris Reynolds yn cyflwyno 'Y Fro Eithinog', cyfrol o gerddi T Llew, a bydd Mererid Hopwood yn trafod ei waith fel bardd am 13.30 mewn sesiwn o'r enw "Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan?"

Mae mab T Llew Jones, Emyr Llewelyn, yn ymuno gyda Siwan Rosser a Myrddin ap Dafydd mewn trafodaeth yn y Lolfa Lên am 12:00.

Disgrifiad o’r llun,

T Llew Jones yn cipio ei Gadair gyntaf yn Eisteddfod Glynebwy 1958

Pam dydd Gwener?

Dewiswyd dydd Gwener gan yr Eisteddfod am mai dyma ddiwrnod y cadeirio, ac fe enillodd T Llew y Gadair ddwywaith: yng Nglynebwy yn 1958 ac yng Nghaernarfon y flwyddyn ganlynol, yn 1959.

Oherwydd hynny mae'r ŵyl wedi trefnu bod dwy artist yn ymweld ag ysgolion yn y ddwy dref.

Aeth Bethan Clwyd i ysgol yng Nglyn Ebwy i greu ac addurno cadeiriau o ddeunyddiau ailgylchu, tra bu'r artist Luned Rhys Parri yn gweithio gydag ysgol yng Nghaernarfon i greu murlun wedi ei seilio ar gymeriadau o straeon a cherddi T Llew Jones.

Yn ogystal â'r digwyddiadau ar y maes ddydd Gwener, mae S4C hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n darlledu cyfres o raglenni i ddathlu bywyd a gwaith T Llew Jones ym mis Hydref i nodi'r canmlwyddiant.

Ymhlith y rhaglenni bydd Beti George, un ag oedd â chysylltiad personol â T Llew Jones, yn cyflwyno portread o'r llenor, yn cyflwyno'r dyn y tu ôl i'r wyneb cyhoeddus. Hefyd, bydd addasiad ffilm o'r nofel Tân ar y Comin yn cael ei ddarlledu.

Disgrifiad o’r llun,

T Llew (chwith) mewn sesiwn farddoni yn Yr Hendre, 1966, gyda Dic Jones, Dafydd Jones ac eraill

Dylanwad

Trwy gysylltiadau teuluol ei wraig, Margaret Jones, a oedd yn perthyn i deulu enwog y Cilie daeth T Llew dan ddylanwad beirdd fel Isfoel ac Alun Cilie.

Roedd yn gyfrannydd cyson i raglenni teledu a radio Cymraeg ac yn 1973 fe gyflwynodd raglen Dilyn Afon i'r BBC, oedd yn dilyn taith Afon Clettwr o'i tharddiad yn Nhalgarreg hyd at Afon Teifi.

Disgrifiad o’r llun,

T Llew yn cwrdd â gof oedd yn byw ar lannau afon Clettwr yn rhaglen Dilyn Afon 1973

Gwyddbwyll

Fe ysgrifennodd T Llew y llawlyfr gwyddbwyll Cymraeg cyntaf gyda'i fab Iolo Ceredig Jones, sy'n gyn-chwaraewr gwyddbwyll proffesiynol.

Bu'n cystadlu gyda'i fab dros Gymru yn yr Olympiad Gwyddbwyll a daeth yn Is-Lywydd Undeb Gwyddbwyll Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae digwyddiadau drwy'r bore yng Ngŵyl Llên Plant yr Eisteddfod ddydd Gwener

Ond mae'n cael ei gofio'n bennaf am iddo ddal dychymyg cenedlaethau o blant gyda'i straeon am gymeriadau cyffrous fel Twm Siôn Cati a Barti Ddu a llu o nofelau eraill oedd wedi'u seilio'n aml ar hanes a chwedlau lleol fel Tân ar y Comin, Corn, Pistol a Chwip, Dirgelwch yr Ogof a Trysor y Môr-ladron.

Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith a gwobr Mary Vaughan Jones yn 1991 am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant dros y blynyddoedd.

Gallwch ddilyn digwyddiadau i nodi canmlwyddiant ei eni ar Hydref 11 1915 ar gyfrif Twitter @100TLlew, dolen allanol.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015