Ffrae yr ardd fotaneg: Galw ar brif weinidog i ymyrryd

  • Cyhoeddwyd
gardd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i ymyrryd wedi ffrae am agwedd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol tuag at y Gymraeg.

Mewn llythyr beirniadol mae'r mudiad iaith wedi galw ar Carwyn Jones i orfodi'r Ardd i gadw at amodau ei Chynllun Iaith Gwirfoddol. Mae'r Ardd yn derbyn grant refeniw o dros £650,000 gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y mudiad iaith, mae yna amod ynghlwm wrth y grant sy'n gorfodi sefydliad i ddarparu gwasanaethau a deunyddiau trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg oni byddai'n "afresymol gwneud hynny."

Cytunodd Cyngor Sir Gâr ym mis Mehefin i roi cyfraniad o £70,000 i'r Ardd ar yr amod ei bod hi'n gwella ei dwyieithrwydd.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod ei swyddogion wedi bod yn ceisio trefnu cyfarfod gyda Chyfarwyddwraig yr Ardd, Dr Rosetta Plummer, ers mis Ebrill oherwydd ffrae am arwyddion uniaith Saesneg gafodd eu defnyddio i hyrwyddo digwyddiadau yn yr Ardd.

'Agwedd anwybodus'

"... prin yw'r achlysuron pan fo'n swyddogion yn gorfod wynebu'r fath agwedd anwybodus tuag at y Gymraeg gan sefydliad cyhoeddus o'r fath," meddai llefarydd.

Maen nhw wedi honni bod Dr Plummer wedi gofyn am ebyst nad oedd yn Gymraeg a hefyd ei bod wedi gwrthod cyfarfod fyddai'n cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chymorth cyfieithydd.

Gwrthod yr honiadau hynny yn llwyr y mae'r gyfarwyddwraig. Mewn datganiad i BBC Cymru dywedodd Dr Plummer fod yr Ardd wedi "ymrwymo'n llawn i annog a datblygu defnydd o'r Gymraeg ... rydym ni yn gweithio yn galed i gyrraedd amcanion ynglŷn â'r Gymraeg

"... ein syniad ni oedd cynnal cyfarfod ... ac fe gafodd y cynnig ei wrthod ... rwy' hefyd yn hapus i ddatgan fy mod i yn hapus i dderbyn ebyst trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod "yn cymryd o ddifrif rwymedigaethau cyrff o ran cydymffurfio â'u cynlluniau iaith. Bydd y Prif Weinidog yn ymateb i Gymdeithas yr Iaith maes o law."