Galwadau i'r gwasanaeth tân wedi haneru mewn 11 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y galwadau 999 i'r gwasanaeth tân yng Nghymru wedi haneru mewn 11 mlynedd.
Yn 2003/04, roedd yna 55,556 o alwadau, ond mae'r ffigwr wedi gostwng i 27,132 yn 2014/15.
Fe wnaeth tanau mewn adeiladau, ceir neu unrhyw dân ble gafodd rhywun eu hanafu ostwng o 11,802 i 4,560 dros yr un cyfnod.
Fe wnaeth gwasanaethau tân y gogledd a'r canolbarth a'r gorllewin weld y galwadau "cynradd" yma yn haneru, tra bo' galwadau i wasanaeth tân y de wedi gostwng tua 70%.
Dywedodd adroddiad ar danau ledled Cymru ers 2001/02 y gallai ymgyrchoedd diogelwch fod yn ffactor yn y gostyngiad.
Fe wnaeth "tanau eilradd" mewn biniau, ar laswellt, mewn adeiladau gwag ac ar y ffyrdd ostwng o 23,742 i 6,541 yn yr un cyfnod 11 mlynedd.
Roedd dros hanner y galwadau yn 2014/15 yn rai di-sail, gyda 15,500 o alwadau ddim angen sylw diffoddwyr.