Trafod cysylltiad Cymreig JRR Tolkien yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae'r cysylltiad Cymreig gydag un o'r cyfresi ac awduron mwyaf poblogaidd yn y byd wedi bod yn destun trafod.
Mae dylanwad Cymru a'r Gymraeg yn amlwg yng ngwaith enwocaf yr awdur ffantasi, JRR Tolkien, The Lord of the Rings.
Yn ogystal â dylanwad chwedlau a daearyddiaeth Cymru ar y straeon Middle Earth, mae'r dylanwad i'w weld ar un o'r ieithoedd gafodd ei chreu i'r gyfres.
Mewn darlith ar y maes, mae'r academydd a'r bardd Eurig Salisbury wedi bod yn trafod y cysylltiad, a'i edmygedd ef o'r awdur.
Bu'r bardd yn sôn am ddarllen y llyfrau pan oedd yn fachgen ifanc, a'r effaith "wnaeth newid fy mywyd i, newid popeth".
'Cyffro mawr'
Ers darllen The Lord of the Rings, dywedodd ei fod yn gwybod ei fod eisiau bod yn awdur, ac "ennyn y teimlad o'n i wedi ei gael, cyffro mawr, a bod yn rhan o'r antur yma. O'n i isho creu'r un teimlad i bobl eraill".
Bu'n sôn am yr oriau a dreuliodd yn creu bydoedd dychmygol, wedi eu hysbrydoli gan waith Tolkien, a'r awydd i farddoni ddaeth ar ôl darllen y straeon.
Mae pobl sydd wedi astudio gwaith Tolkien yn cytuno bod llawer o'r fytholeg a grëodd yn ei straeon wedi ei dylanwadu gan Gymru, y Gymraeg a'i chwedlau.
Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth dau arbenigwr esbonio dylanwad yr iaith, y ddaearyddiaeth a hen chwedlau Cymru ar ei waith.
Sail i iaith newydd
Yn ôl Eurig Salisbury, y prif ddylanwad a gafodd y Gymraeg ar y straeon oedd mewn un o'r ieithoedd gafodd ei chreu - Sindarin, sef iaith yr elves.
Dywedodd bod Tolkien wedi defnyddio gramadeg a threigladau Cymraeg fel sail i'r iaith newydd - ac mai dyna pam bod sŵn cyfarwydd a naturiol i lawer o'r enwau a'r llefydd yn y llyfrau.
Roedd Tolkien yn berchen rai o straeon y Mabinogion a chyfrol John Morris Jones, Grammar of Middle Welsh.
Mae Eurig Salisbury o'r farn bod y llyfrau wedi rhoi'r sail i Tolkien greu ieithoedd newydd i'w lyfrau.
O ganlyniad, dywedodd y byddai llyfrau The Lord of the Rings a The Hobbit yn addas iawn ar gyfer eu cyfieithu i'r Gymraeg, a defnyddio barddoniaeth Gymraeg yn rhan o hynny hefyd.
Unrhyw un eisiau her?!