Ateb y Galw: Ffion Hague

  • Cyhoeddwyd
ffion hague

Yr wythnos yma Ffion Hague sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw wedi iddi gael ei henwebu gan Siân James yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Torri 'mraich yn ddyflwydd oed ar ol cael go ar tricycle fy chwaer hyn pan oedd hi'n yr ysgol. Dw i'n cofio troi cornel yn rhy sydyn, cwympo a bwrw 'mraich ar wal isel yn yr ardd. Ow'r boen!!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Geraint Jarman, wrth gwrs, onid oedd pawb??

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dw i'n embarrasio fy hun yn reit aml, felly mae 'na ddigon o ddewis. Cawlio enwau, fel arfer. Dw i'n dda ar adnabod wynebau ond yn anobeithiol ar gofio enwau felly sori i unrhyw un dw i wedi'u pechu…

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dw i'n crio o leia unwaith wrth ffilmio pob pennod o Mamwlad, fel arfer wrth ffilmio'r darn cloi.

Y tro diwethaf felly oedd wrth i mi ffilmio am Jennie Eirian yng Nghapel Bethesda, yr Wyddgrug. Mae fy nghriw ffilmio yn oddefgar iawn...

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, gormod i'w rhestru!

Disgrifiad o’r llun,

Ffion a'i gŵr, William Hague, cyn-arweinydd y Blaid Geidwadol

Dy hoff ddinas yn y byd?

Rwy'n hoff iawn o Sydney yn Awstralia ac hefyd o San Francisco. Ond i mi, Llundain yw'r gore oll.

Mae 'na gymaint o amrywiaeth yno, ac egni 24-awr. Pan ma' rhywbeth yn digwydd yn Llundain mae'r byd yn gwrando, a dw i wedi bod yn ddigon lwcus i fod yn rhan o nifer o'r achlysuron hynny.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Eto i ddod, gobeithio!

Oes gen ti datŵ?

Nac oes.

Beth yw dy hoff lyfr?

Mae'n newid o fis i fis. Casglu llyfrau yw fy hoff weithgaredd.

Ffynhonnell y llun, Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r silffoedd llyfrau yn gwegian yng nghartre Ffion

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fleece. Dw i'n teimlo'r oerfel yn ofnadwy.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Sean the Sheep: the Movie. Peidiwch a'm barnu!!

Dy hoff albwm?

Gitar yn y Twll Dan Star gan Meic Stevens. Soundrack fy 'nglaslencyndod.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Tomato a mozzarella i ddechrau, cig oen wedi'i goginio yn ara, ac wedyn cacen gaws. Nefoedd!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Tecstio i mi - mae'n well gen i gwrdd wyneb yn wyneb na siarad ar y ffôn, felly mae tecst yn fwy cyflym wrth wneud trefniadau.

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Hoffwn i fod yn geidwad Ynys Enlli am ddiwrnod (neu am hirach, dwi'n ystyried gwneud cais). Mae'n le hudol, ac mae angen tipyn o dawelwch arna i ar ol blwyddyn hectic iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Mi fyddai Ffion wrth ei bodd cael bod yn geidwad Ynys Enlli

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa?

Manon Rhys